Ysgrifennydd Cymru yn croesawu strategaeth i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched
Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi croesawu cyhoeddiad Teresa May, yr Ysgrifennydd Cartref, heddiw bod dros £28 miliwn wedi…

Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi croesawu cyhoeddiad Teresa May, yr Ysgrifennydd Cartref, heddiw bod dros £28 miliwn wedi cael ei neilltuo ar gyfer gwasanaethau arbenigol i fynd i’r afael a thrais yn erbyn menywod a merched yng Nghymru a Lloegr tan 2012, fel rhan o gynlluniau trawslywodraethol newydd.
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Dileu Trais yn erbyn Menywod, bu Mrs Gillan yn ymweld a Chymorth i Fenywod Caerdydd i glywed am eu gwaith yn darparu cefnogaeth a llety diogel i fenywod a phlant sy’n dioddef trais a cham-drin domestig.
Dywedodd Mrs Gillan: “Mae gan bawb hawl i fyw yn ddiogel heb ofn ac mae rhoi diwedd ar drais yn erbyn menywod a merched yn flaenoriaeth i’r llywodraeth hon. Dyna pam ein bod wedi cyhoeddi cynlluniau heddiw i fynd i’r afael a’r trosedd cudd annerbyniol hwn drwy ddarparu cyllid sefydlog ar gyfer gwasanaethau arbenigol a hybu atal trais drwy herio agweddau a newid ymddygiad.
“Mae’r Diwrnod Rhyngwladol Dileu Trais yn Erbyn Menywod yn chwarae rhan bwysig o ran tynnu sylw at sefyllfa menywod a phlant ar draws y Byd sy’n dioddef y trosedd erchyll hwn. Roeddwn yn falch o gael ymweld a Chymorth i Fenywod Caerdydd ar y diwrnod hwn i gwrdd a’r staff a chlywed am y gwasanaethau, y gefnogaeth a’r lloches hanfodol maent yn eu darparu i fenywod a phlant ddau ddeg pedwar awr y dydd, drwy gydol y flwyddyn.
“Drwy eu prosiect eiriolaeth ac addysg hawliau menywod mae Cymorth i Fenywod Caerdydd eisoes yn gweithio’n galed yn y maes hwn i gynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth am drais domestig yn y gymuned leol. Rhaid i ni gydweithio i roi diwedd ar y troseddau erchyll hyn a gwneud yn siŵr bod pawb mewn cymdeithas yn gweld bod trais domestig yn anghywir ac yn gwbl annerbyniol.”
Nodiadau
Bydd y weledigaeth a’r blaenoriaethau tymor hir trawslywodraethol ar gyfer mynd i’r afael a thrais yn erbyn menywod a merched yn cael ei ddilyn gan gynllun llawn o gamau gweithredu’r gwanwyn nesaf.
Tynnir sylw at bedwar prif faes ffocws; atal trais gan gynnwys lleihau erlid parhaus, darparu cefnogaeth, dod a grwpiau at ei gilydd i weithio mewn partneriaeth a chamau gweithredu i leihau’r risg drwy sicrhau bod y drwgweithredwyr yn dod gerbron eu gwell.
Am y tro cyntaf mae’r strategaeth hon yn dod a gwaith ynghyd i fynd i’r afael a thrais yn erbyn menywod yn y DU gyda manylion y dull gweithredu rhyngwladol i fynd i’r afael a’r broblem fyd-eang hon.