Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn croesawu cyhoeddi’r Mesur Ynni

Heddiw mae David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi croesawu cyhoeddi’r Mesur Ynni sy’n cynnwys diwygiadau i gadw biliau ynni defnyddwyr…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw mae David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi croesawu cyhoeddi’r Mesur Ynni sy’n cynnwys diwygiadau i gadw biliau ynni defnyddwyr i lawr a chreu trydan glanach i helpu i fynd i’r afael a newid hinsawdd.

Nod y Mesur, a gyhoeddwyd heddiw gan yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd, yw diwygio’r farchnad drydan i alluogi buddsoddiad ar raddfa fawr mewn capasiti cynhyrchu carbon isel yn y DU a sicrhau cyflenwadau diogel mewn ffordd gost-effeithiol.

Bydd y diwygiadau hyn yn sicrhau bod digon o gymhelliant ar gyfer cynhyrchu ynni carbon isel i sicrhau bod gorsafoedd newydd yn cael eu hadeiladu, er mwyn galluogi’r DU i ddiwallu ei dyletswyddau i leihau allyriadau carbon a chynyddu faint o ynni adnewyddadwy sy’n cael ei ddefnyddio.

Gan gydnabod y rhan bwysig y mae diwydiannau ynni-ddwys yn ei chwarae yn economi’r DU, mae Mr Jones hefyd wedi croesawu’r cyhoeddiad y bydd diwydiannau ynni-ddwys yn cael eu heithrio o gostau Contractau Gwahaniaeth o dan Ddiwygio’r Marchnadoedd Trydan. Mae Contractau Gwahaniaeth yn gontractau tymor hir sy’n rhoi refeniw sefydlog i fuddsoddwyr mewn prosiectau ynni carbon isel ar lefel sefydlog o’r enw pris taro.

Dywedodd Mr Jones:

“Rwyf yn croesawu cyhoeddi’r Mesur hwn a fydd yn caniatau i’r Llywodraeth ddiwallu ei dyletswyddau cyfreithiol i leihau carbon ac o ran ynni adnewyddadwy, a chyflwyno’r buddsoddiad sydd ei angen i greu cymysgedd ynni sy’n fwy amrywiol a gwneud biliau’n fforddiadwy i ddefnyddwyr.

“Bydd Diwygio’r Farchnad Drydan yn sicrhau bod y DU yn aros yn gyrchfan ddeniadol ar gyfer buddsoddi mewn trydan carbon isel, gan roi hwb i’r economi a hybu buddsoddiad mewn trydan diogel, fforddiadwy a charbon isel.  Mae angen hyn i ddenu’r buddsoddiad sydd ei angen i ddisodli’r seilwaith ynni sy’n heneiddio a diwallu’r cynnydd a ddisgwylir yn y dyfodol yn y galw am drydan drwy drydaneiddio sectorau fel trafnidiaeth a gwres.

“Mewn cyfnod economaidd mor heriol, mae’n hanfodol bod y Llywodraeth yn gwneud popeth o fewn ei gallu i helpu i annog ein busnesau i dyfu, ac i sicrhau bod Cymru - a’r DU i gyd - yn lleoliad deniadol i’r diwydiant fuddsoddi ynddo.

“Dyna pam rwyf yn croesawu’r ffaith bod y Llywodraeth yn ceisio eithrio diwydiannau ynni-ddwys, fel y diwydiant dur, o gostau Contractau Gwahaniaeth. Wrth i ni ddechrau symud at economi Carbon Isel, mae angen i ni sicrhau hefyd ein bod yn creu’r amodau priodol i wneud yn siŵr nad yw’r diwydiannau mwyaf ynni-ddwys yn cael eu rhoi o dan anfantais, a’u bod yn gallu cystadlu yn y farchnad fyd-eang.

“Bydd y diwygiadau sydd yn y Mesur Ynni hwn yn well i’r amgylchedd, yn well i ddefnyddwyr ac yn well i’n diogelwch ynni. Yn hanfodol, byddant hefyd yn well i’r economi ac yn gweddnewid darparu ynni effeithlon a chynhyrchu yn y DU.”

 

NODIADAU I OLYGYDDION

  1. Nod y Mesur Ynni yw cyflwyno newid unwaith mewn cenhedlaeth o’r farchnad ynni o fod yn ddibynnol ar danwydd ffosil i symud at gymysgedd sy’n fwy amrywiol gan gynnwys ffynonellau carbon isel a gynhyrchir gartref, a drwy wneud hynny helpu i ddiogelu economi’r DU rhag prisiau nwy byd-eang yn y dyfodol.
  2. Cytunir ar gontractau tymor hir gyda datblygwyr seilwaith newydd, gan ddarparu cyfradd sefydlog o enillion sydd wedi’i dylunio i roi sicrwydd a chefnogi technolegau sy’n bellach o’r farchnad. Bydd y costau’n cael eu rhoi i’r cyflenwyr ynni, a bydd disgwyl i’r rhain gael eu trosglwyddo ymlaen i’r defnyddwyr. Bydd eithrio Diwydiannau Ynni-ddwys o’r costau hyn yn helpu diwydiant Prydain i gystadlu’n rhyngwladol, a fydd o fantais i economi’r DU ac yn cefnogi lleihau allyriadau yn fyd-eang.
  3. Wrth gyflwyno’r eithriad ar gyfer Diwydiannau Ynni-ddwys, bydd y Llywodraeth yn sefydlu fframwaith i sicrhau bod y costau i ddefnyddwyr eraill yn cael eu lleihau.

  4. Mae Adran yr Amgylchedd a Newid Hinsawdd a’r Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau yn ystyried hyd a lled yr eithriad ar gyfer diwydiannau ynni-ddwys ar hyn o bryd, a byddant yn cynnal ymgynghoriad yn 2013 ar ol i’r eithriad arfaethedig gael ei ddatblygu ymhellach. Bydd yr eithriad yn gofyn am ganiatad gan y Comisiwn Ewropeaidd yng nghyswllt cymorth gwladwriaethol.

  5. Mae cynllun ar wahan gwerth £250m i wneud iawn i ddiwydiannau ynni-ddwys penodol am y costau ychwanegol sydd ynghlwm wrth y Llawr Pris Carbon a System Masnachu Allyriadau’r UE eisoes yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd.
Cyhoeddwyd ar 29 November 2012