Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn croesawu Comisiynydd Pobl Hŷn i San Steffan i lansio adroddiad

Heddiw (13 Hydref) croesawodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Ruth Marks, i San Steffan ar gyfer lansio ei thrydydd adroddiad…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw (13 Hydref) croesawodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Ruth Marks, i San Steffan ar gyfer lansio ei thrydydd adroddiad blynyddol.

Cynhaliodd Mrs Gillan dderbyniad yn Portcullis House ar gyfer ASau Cymru wrth i Ms Marks amlinellu rhai o brif ganfyddiadau ei hadroddiad blynyddol diweddaraf.  Yn gynharach heddiw, derbyniodd Mrs Gillan yr adroddiad yn ffurfiol yn ystod cyfarfod yn Nhŷ Gwydyr.

Wrth siarad yn y lansiad, dywedodd Mrs Gillan:  “Mae Comisiynydd Pobl Hŷn yn chwarae rhan bwysig o ran sicrhau bod llais y genhedlaeth hŷn yn cael ei glywed a gwneud yn siŵr bod polisi’r Llywodraeth yn bodloni anghenion pobl hŷn.   Mae Ruth a’i thim wedi bod yn brysur yn hyrwyddo hawliau pobl hŷn ledled Cymru ac yn ei hadroddiad tynnir sylw yn briodol at y cyflawniadau cadarnhaol a wnaethpwyd.

“Tynnir sylw yn briodol hefyd at yr heriau sydd yn ein hwynebu mewn cyfnod anodd.   Mae’n bwysicach fyth bod pob sector yn y gymuned yn cael lleisio ei farn - ond rhaid i ni fel aelodau’r Senedd beidio ag anwybyddu profiadau a doethineb y genhedlaeth hŷn. 

“Mae llawer o’n pobl hŷn yn rhan ganolog o’n cymunedau ac eisoes yn dangos diddordeb mawr wrth chwarae eu rhan - dod o hyd i atebion ar gyfer problemau yn eu cymunedau.   Diben y Gymdeithas Fawr yw gwneud hynny’n rhan o’r drefn arferol yn hytrach na’r eithriad.

“Mae tegwch wrth wraidd popeth a wna’r Llywodraeth Glymblaid ac edrychaf ymlaen at weithio gyda Ruth, ei thim a Senedd Pobl Hŷn Cymru a lansiwyd gan y Gweinidog David Jones yn ddiweddar er mwyn cyflawni hyn.   Mae’r derbyniad heddiw yn gyfle gwych i ni ddiolch i Ruth am y gwaith gwych y mae hi wedi’i wneud a gweld sut gallwn gydweithio yn y dyfodol i hyrwyddo hawliau pobl hŷn.”

Dywedodd Ruth Marks, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru: “Rwyf yma i sefyll dros hawliau pobl hŷn ac annog pawb i gydnabod a chodi proffil y cyfraniad a wneir gan bobl hŷn. Yr hyn yr ydw i’n canolbwyntio’n bennaf arno yw amddiffyn gwasanaethau ar gyfer y rhai mwyaf agored i niwed oherwydd bod pobl hŷn wedi dweud wrtha i mai am hyn y maent yn poeni go iawn.”

“Rwy’n sylweddoli beth yw’r heriau sy’n wynebu gwasanaethau cyhoeddus, mae pob un ohonom yn deall y bydd toriadau o ran gwariant cyhoeddus.  Rwy’n credu ei bod yn hanfodol bod cyrff y sector preifat, y sector cyhoeddus a’r sector gwirfoddol yn ymgysylltu’n llwyr a phobl hŷn i ddarparu’r gwasanaethau gorau posib o fewn y cyfyngiadau ariannol newydd.”

Cyhoeddwyd ar 13 October 2010