Ysgrifennydd Cymru’n croesawu ffigurau newydd yr IMF yn dangos mai economi’r DU yw’r economi fawr sy’n tyfu gyflymaf
Stephen Crabb AS: “Dyma newyddion da i deuluoedd a busnesau sy’n gweithio’n galed ledled Cymru.”

Heddiw (25 Gorffennaf), croesawodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Stephen Crabb AS gyhoeddiad yr IMF mai’r DU yw’r economi fawr sy’n tyfu gyflymaf yn y byd eleni.
Dywedodd Mr Crabb:
Mae’r cyhoeddiad heddiw fod Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) y DU bellach yn uwch na’r lefelau cyn y dirwasgiad yn newyddion da i deuluoedd a busnesau sy’n gweithio’n galed ledled Cymru.
Diolch i’r penderfyniadau anodd a wnaed gan y llywodraeth hon, mae economi Cymru wedi cymryd camau breision er 2010.
Ers yr etholiad cyffredinol mae bellach 49,000 yn fwy o bobl yn gweithio yng Nghymru ac mae diweithdra ar duedd amlwg ar i lawr.
Mae mwy o bobl yng Nghymru yn mynd â mwy o arian gartref ar ddiwedd pob mis gan fod cyfartaledd enillion yn cynyddu ddwywaith cymaint â chyfartaledd y DU. Mae rhannau allweddol o economi Cymru, megis gweithgynhyrchu, technoleg, ynni a’r diwydiant awyrennau i gyd wedi helpu i arwain yr adferiad ar draws y DU.
Wrth gwrs, does dim lle i ni orffwys ar ein rhwyfau, ond drwy lynu at ein cynlluniau rydym yn adfer cydbwysedd yr economi, gan annog creu swyddi a gyrru twf ledled Cymru a’r DU.
Mae mwy i’w wneud eto, ond mae ein cynllun economaidd hirdymor yn gweithio – ac mae’n gweithio i Gymru.