Ysgrifennydd Cymru yn croesawu contract gwerth miliynau i gwmni o Dde Cymru
Heddiw mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru, wedi croesawu’r cyhoeddiad bod Mabey Bridge, sef cwmni wedi’i leoli yn Sir Fynwy, wedi ennill …
Heddiw mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru, wedi croesawu’r cyhoeddiad bod Mabey Bridge, sef cwmni wedi’i leoli yn Sir Fynwy, wedi ennill contract gwerth miliynau o bunnoedd i gynhyrchu a chyflenwi 35 o dyrrau gwynt yng Nghymru a’r Alban.
Mae’r ddel - a wnaed gyda Nordex, datblygwyr tyrbinau gwynt o’r Almaen - wedi golygu bod 45 aelod newydd o staff yn cael eu recriwtio i weithio yn y cyfleuster gweithgynhyrchu £38m yng Nghas-gwent. O ganlyniad i’r contract, bydd 170 o aelodau staff yn gweithio’n amser llawn ar yr archeb.
Dywedodd Mrs Gillan:
“Mae hyn yn newyddion gwych i’r economi yng Nghymru, ac yn newyddion gwych hefyd i ddiwylliannau gweithgynhyrchu ac ynni adnewyddadwy y DU.
“Mae’r contract hwn yn dangos yn glir bod gan wledydd Ewrop ffydd o hyd yn nhalent, arbenigedd a sgiliau ein gweithwyr ni yma yng Nghymru.
“Yn ogystal, mae’r cyhoeddiad hwn yn rhoi’r cyfle i ni ddangos i weddill y byd bod Cymru wir yn chwarae ei rhan wrth sicrhau seilwaith ynni’r Deyrnas Unedig ar gyfer y dyfodol. Rwy’n llongyfarch Mabey Bridge am sicrhau archeb mor bwysig.”