Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn croesawu lansio’r Contract Ieuenctid

Croesawodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan lansio Contract Ieuenctid Llywodraeth y DU heddiw (dydd Llun 2 Ebrill) a chymeradwyodd…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Croesawodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan lansio Contract Ieuenctid Llywodraeth y DU heddiw (dydd Llun 2 Ebrill) a chymeradwyodd ymrwymiad darparwyr i gefnogi’r Cymry di-waith tymor hir i gael cyflogaeth gynaliadwy.

Mae’r rhaglen Contract Ieuenctid yn becyn uchelgeisiol o fesurau a gynlluniwyd gan Lywodraeth y DU i fynd i’r afael a diweithdra ymysg pobl ifanc.

Bydd y cynllun £1biliwn yn darparu bron i hanner miliwn o gyfleoedd newydd i bobl ifanc 18-24 oed, gan gynnwys prentisiaethau a lleoliadau profiad gwaith gwirfoddol.

Ymwelodd Mrs Gillan a BTCV JobFit yng Nghaerdydd i ddathlu’r cyhoeddiad - rhan o Wasanaethau Cyflogaeth BTCV sydd wedi bod yn cyflwyno’r Rhaglen Waith yn y ddinas er mis Mehefin 2011. Mae’r rhaglen yn helpu cyflogwyr i lenwi swyddi gwag a datblygu eu gweithlu, yn ogystal a helpu pobl i gyflogaeth a’r rheini sy’n dymuno dychwelyd i waith.

Yma, bu iddi gyfarfod a Gill Owens, Rheolwr Cyflenwi Rehab JobFit ar gyfer De Cymru, a’i cyflwynodd i’r staff a’r gwirfoddolwyr sy’n treulio eu hamser yn cael pobl yn ol i fyd gwaith. Cyfarfu hefyd a phobl ifanc sy’n elwa o BTCV JobFit ac sy’n cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i wneud eu ffordd i gyflogaeth gynaliadwy.

Yn ystod ei hymweliad a De Cymru, aeth Mrs Gillan i gangen Canolfan Byd Gwaith yng Nghwmbran, lle bu iddi gyfarfod a rheolwr rhanbarth De Ddwyrain Cymru, Bernadette Jones (i’w gadarnhau) a drafododd y materion a oedd yn wynebu’r ardal a sut y mae’r gwasanaeth yn helpu i gefnogi pobl yn ol i gyflogaeth gynaliadwy.

Yn dilyn ei hymweliadau, dywedodd Mrs Gillan:

“Roeddwn wrth fy modd yn cael y cyfle i weld y Rhaglen Waith yn cael ei gweithredu, ac roedd agwedd gadarnhaol y ceiswyr gwaith y bu i mi gyfarfod a nhw yn galonogol. Mae’n dangos bod y Rhaglen Waith newydd yn dechrau cael effaith wirioneddol ar ragolygon gwaith miloedd o bobl hyd a lled Cymru - yn arbennig ymysg pobl ifanc di-waith.

“Rydyn ni’n gwybod bod gwahanol bobl ifanc angen gwahanol fathau o gefnogaeth, felly bydd lansio’r Contract Ieuenctid heddiw yn helpu i wneud yn siŵr bod pob person ifanc rhwng 18 a 24 oed sy’n ddi-waith yn cael y gefnogaeth iawn, ar yr adeg iawn, i’w helpu i ganfod swydd a symud i fyd cyflogaeth.

“Yn wir, rydyn ni eisoes yn gwneud cyfraniad sylweddol i’r mater fel Llywodraeth. Yn ystod tair blynedd ar ddeg y llywodraeth ddiwethaf, cynyddodd diweithdra ymysg pobl ifanc yng Nghymru 9%, gyda chynnydd o 73% yn ystod Senedd olaf y Llywodraeth flaenorol.

“Roedd ffigurau o fis Mai 2010 a mis Mai 2011 yn dangos bod y dirywiad hwnnw’n gwrthdroi gyda diweithdra ymysg pobl ifanc yn disgyn dros 2% rhwng mis Mai 2010 a mis Mai 2011. Rydyn ni am wneud yn siŵr bod yn duedd hon yn parhau a bydd lansio’r Contract Ieuenctid heddiw yn siŵr o atgyfnerthu ein hymdrechion.”

Dywedodd Martin Brown, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gwaith Cymru a Chyflogwyr yr Adran Gwaith a Phensiynau:

“Mae’r Contract Ieuenctid yn hwb derbyniol i bobl ifanc a chyflogwyr yng Nghymru. Drwy gymryd rhan mewn pethau fel profiad gwaith, treialon gwaith neu wirfoddoli, maent yn cael cyfle gwych i ddangos eu sgiliau i gyflogwyr posibl, a all roi gwir fantais iddynt ar ymgeiswyr eraill mewn marchnad lafur gystadleuol.”

**Nodyn i Olygyddion **

  • Mae’r Rhaglen Waith yn darparu cefnogaeth wedi’i theilwra i hawlwyr sydd angen mwy o help i chwilio am waith yn ddygn ac yn effeithiol.
  • Mae cyfranogwyr yn cael cefnogaeth i oresgyn rhwystrau sy’n eu hatal rhag dod o hyd i waith ac aros mewn gwaith. Darparwyr gwasanaeth dan gontract gan yr Adran Gwaith a Phensiynau sy’n cyflwyno’r rhaglen, a nhw sy’n llwyr gyfrifol am benderfynu sut orau i gefnogi’r cyfranogwyr a bodloni eu safonau darparu gwasanaethau gofynnol ar yr un pryd.
  • Mae’r Contract Ieuenctid yn becyn o gefnogaeth sy’n werth bron i £1biliwn i helpu pobl ifanc di-waith i baratoi ar gyfer gwaith a dod o hyd i swydd. Dros dair blynedd o fis Ebrill 2012, bydd y Contract Ieuenctid yn darparu bron i hanner miliwn o gyfleoedd newydd i bobl ifanc ac yn gwella mesurau Cael Prydain i Weithio gyda mwy o ffocws ar bobl ifanc.
  • Bydd arian ar gael i Lywodraeth Cymru ar agweddau o’r rhaglen sydd yn Lloegr yn unig, ond bydd llawer o’r rhaglen hon yn cael ei chyflwyno ar draws y DU.
Cyhoeddwyd ar 2 April 2012