Ysgrifennydd Cymru yn croesawu lansio ymddiriedolaeth y dyfrffyrdd
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, yn annog mwy o bobl i ymwneud a’u dyfrffyrdd lleol wrth i gamlesi ac afonydd hanesyddol Cymru…

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, yn annog mwy o bobl i ymwneud a’u dyfrffyrdd lleol wrth i gamlesi ac afonydd hanesyddol Cymru gael eu trosglwyddo i’r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd heddiw.
Mae buddsoddiad o £1bn gan Lywodraeth y DU wrth wraidd y trosglwyddo hwn, gan gynnwys cytundeb arian grant 15 mlynedd sy’n torri tir newydd, ac sy’n arwain at y posibilrwydd o ddenu ffynonellau incwm newydd.
Mae’r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yn cymryd drosodd gan Ddyfrffyrdd Prydain ac Ymddiriedolaeth y Dyfrffyrdd yng Nghymru a Lloegr, ac mae’n golygu dull gweithredu cwbl newydd ar gyfer dyfrffyrdd y wlad. Hwn yw’r cam mwyaf o drosglwyddo corff cyhoeddus i’r sector elusennol ac mae’n rhan o raglen Diwygio Cyrff Cyhoeddus.
Wrth groesawu’r cyhoeddiad, dywedodd Mrs Gillan:
“Mae rhai o’r tirnodau a’r golygfeydd mwyaf ysblennydd i’w gweld yma yng Nghymru, ac rwy’n falch y bydd y buddsoddiad hwn yn yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yn helpu i warchod, adfer a gwella rhai o’n dyfrffyrdd mwyaf bendigedig.”
“Bues i yn ymweld a chamlas Llangollen ar draws Dyfrbont Pontcysyllte y llynedd a chefais gyfarfod a chynrychiolwyr o Ddyfrffyrdd Prydain a busnesau lleol i glywed eu barn am fanteision y dyfrffyrdd.
“Mae twristiaeth a dyfrffyrdd yn gwneud cyfraniad hanfodol i’n heconomi. Mae nifer o fanteision i’n dyfrffyrdd gan gynnwys cefnogi cymunedau gwledig drwy gynnig gweithgareddau hamdden, twristiaeth a chreu swyddi. Rwy’n awyddus i gynifer o bobl a phosib fanteisio ar y pethau hyn.”