Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru’n croesawu’r gostyngiad diweddaraf mewn Diweithdra yng Nghymru

Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi croesawu’r ystadegau diweddaraf am y Farchnad Lafur a gyhoeddwyd heddiw. Mae’r ffigurau’…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi croesawu’r ystadegau diweddaraf am y Farchnad Lafur a gyhoeddwyd heddiw. Mae’r ffigurau’n dangos bod cyfradd diweithdra yng Nghymru wedi gostwng 8.4% o’i gymharu a’r chwarter diwethaf.

Meddai Mrs Gillan: “Rydym yn croesawu’r gostyngiad hwn, ond ni allwn anghofio’r sefyllfa rydym wedi’i hetifeddu gan y Llywodraeth flaenorol. Mae diweithdra yng Nghymru wedi cynyddu bron 50 y cant o 82,000 i dros 120,000 dros y 10 mlynedd diwethaf.

“Mae cyfradd diweithdra yng Nghymru’n dal yn uwch na chyfradd y DU, sy’n 7.8%, ac mae hynny’n pwysleisio’n barhaus y gwaith pwysig sydd angen ei wneud i gael pobl yn ol i waith. Rhaid i ni weithredu os ydym am sicrhau nad yw’r dirwasgiad yn gadael Cymru mewn sefyllfa o ddiweithdra am flynyddoedd lawer.”

Mae’r lefel Anweithgarwch Economaidd yn 505,000 ar hyn o bryd yng Nghymru, sy’n gynnydd o 8,000 ers y chwarter diwethaf. Mae cyfradd Anweithgarwch Economaidd Cymru yn 26.6 y cant, yr ail uchaf yn y DU ar ol Gogledd Iwerddon.

Ychwanegodd Mrs Gillan: “Rhaid i ni weithio gyda’n gilydd yn San Steffan ac yng Nghymru i helpu Cymru i ddechrau gweithio eto. Drwy weithio gyda’n cydweithwyr yn yr Adran Gwaith a Phensiynau, rydym yn benderfynol o gyfleu’r neges fod gwaith yn talu a bod Cymru yn agor ei drysau i fusnes.”

“Rydw i hefyd wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth a Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddenu mwy o fusnesau i Gymru er mwyn creu mwy o gyfleoedd ar gyfer ein gweithlu parod ac eiddgar.  Siaradais a Dirprwy Brif Weinidog Cymru yn gynharach heddiw i drafod y ffordd orau o gydweithio er mwyn cyflawni hyn.”

Cyhoeddwyd ar 15 September 2010