Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru’n croesawu plant ‘LATCH’ ar ymweliad Nadolig I Whitehall

Tra ar ymweliad Nadolig blynyddol i Whitehall, bu i grŵp o blant dewr o Dde Cymru fwynhau te parti Nadolig cynnar heddiw (dydd Iau 16 Rhagfyr…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Tra ar ymweliad Nadolig blynyddol i Whitehall, bu i grŵp o blant dewr o Dde Cymru fwynhau te parti Nadolig cynnar heddiw (dydd Iau 16 Rhagfyr) wedi ei drefnu gan Cheryl Gillan,Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Bu i’r plant a’u rhieni fwynhau diwrnod allan yn Llundain fel rhan o ymweliad a drefnwyd gan LATCH Cymru, yr elusen plant.

Cyn mynd draw i Downing Street, daeth Sion Corn ei hun i gyfarfod y plant yn ystod eu taith o gwmpas  Tŷ’r Cyffredin.   Yna,  dim ond cam a naid drosodd i Dŷ Gwydyr ar gyfer y te parti a oedd wedi ei drefnu yn arbennig ar gyfer y plant.    Ar y ffordd i Dŷ Gwydyr, ac  yn sŵn yr anthem genedlaethol, gorymdeithiodd y Gwarchodlu Brenhinol Cymreig a’r Gwarchodlu Cymreig i fyny i Whitehall.   Roedd y ddau Warchodlu wedi bod gyda’r plant drwy gydol yr ymweliad.

Dywedodd Mrs Gillan:   “Roedd yn bleser pur cyfarfod a’r plant dewr hyn a threfnu  te parti arbennig iddynt ar ddiwedd diwrnod yn Whitehall.   Mae LATCH, dan arweinyddiaeth Tony Curtis, yn elusen ryfeddol ac yn gwneud gwaith da iawn wrth drefnu diwrnodau allan gwych.

“Rwy’n gobeithio  bod y plant a’u teuluoedd wedi llwyr fwynhau’r diwrnod,  ac rwy’n sicr y bydd ganddynt atgofion gwych o’r diwrnod ac y byddant yn eu trysori am byth.   Mae heddiw yn bendant  wedi ennyn yr ysbryd Nadoligaidd yn Swyddfa Cymru, ac roedd yn ffantastig gallu dymuno Nadolig Llawen iawn i’r plant a’u teuluoedd.

Cyhoeddwyd ar 16 December 2010