Ysgrifennydd Cymru’n croesawu’r Cyflog Byw Cenedlaethol newydd
Alun Cairns: Mae pobl weithgar Cymru’n haeddu codiad cyflog

National Living Wage
O 1 Ebrill, bydd gweithwyr 25 oed a hŷn yn y DU sy’n ennill dros y gyfradd sylfaenol o £6.70 yr awr yn cael cynnydd o 50c
Mae’r Cyflog Byw Cenedlaethol newydd yn cefnogi gweledigaeth y Llywodraeth o gael cymdeithas â llai o bwysau o ran lles a threthi, ond â chyflogau uwch
O heddiw (1 Ebrill) ymlaen, bydd y Cyflog Byw Cenedlaethol newydd yn dod i rym ar draws y DU. Bydd gweithwyr 25 oed a hŷn sy’n ennill y gyfradd sylfaenol fesul awr yn gweld eu cyflog yn codi i £7.20 yr awr.
Bydd dros filiwn o weithwyr yn y DU yn elwa’n uniongyrchol o’r cynnydd hwn.
Bydd nifer yn gweld eu cyflogau’n codi hyd at £900 y flwyddyn. Dyma fydd y cynnydd blynyddol mwyaf yng nghyfradd isafswm cyflog unrhyw wlad G7 ers 2009, a hynny’n ariannol ac mewn termau real.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae Llywodraeth y DU yn credu’n gryf fod pobl weithgar Prydain yn haeddu codiad cyflog, a bydd y Cyflog Byw Cenedlaethol newydd yn sicrhau bod hyn yn digwydd.
Rydyn ni’n gweithio’n galed i sicrhau cymdeithas sydd â llai o bwysau o ran lles a threthi, ond â chyflogau uwch - un sy’n gwneud i waith dalu ac sy’n cefnogi pobl o bob oed ledled Cymru a’r DU.
Mae lansio’r Cyflog Byw Cenedlaethol newydd yn nodi cynnydd arwyddocaol tuag at y nod hwn.