Ysgrifennydd Cymru: y cydrannau alltraeth cyntaf yn cael eu gosod ar gyfer Gwynt y Môr yn ‘newyddion gwych’
Heddiw, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan wedi croesawu’r cyhoeddiad bod y gwaith o osod y cydrannau alltraeth cyntaf ar gyfer Gwynt…

Heddiw, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan wedi croesawu’r cyhoeddiad bod y gwaith o osod y cydrannau alltraeth cyntaf ar gyfer Gwynt y Mor, un o’r ffermydd gwynt ar y mor mwyaf yn Ewrop, wedi cychwyn oddi ar arfordir gogledd Cymru heddiw.
Mae Fferm Wynt Alltraeth Gwynt y Mor Cyf wedi dyfarnu contractau gwerth dros £70miliwn i gwmniau yng Nghymru, a disgwylir y bydd mwy yn cael eu cyhoeddi cyn hir. Ymwelodd Ysgrifennydd Cymru a Bi-Fab yn Fife, yr Alban yn ddiweddar, lle gwelodd y siacedi y bydd y tyrbinau gwynt yn cael eu gosod arnynt yn cael eu cynhyrchu.
Dywedodd Mrs Gillan:
“Mae’r cyhoeddiad hwn yn newyddion gwych i ogledd Cymru a’r DU. Yng Nghymru, mae’r sector ynni’n hanfodol bwysig i’n heconomi, ac mae’r cyhoeddiad hwn yn cadarnhau unwaith yn rhagor bod Cymru mewn sefyllfa ddelfrydol i groesawu mewnfuddsoddiad gan y sector ynni adnewyddadwy.
“Pan wnes i ymweld a’r Alban ym mis Mawrth, cefais gyfarfod ag uwch reolwyr RWE ac uwch gynrychiolwyr Scottish Development International (SDI) i drafod sut i ddenu mwy o fuddsoddiad o’r tu allan i Gymru. Mae gennym ni lawer iawn i fod yn falch ohono eisoes: datblygiadau gwynt newydd yn y mor fel North Hoyle, Gwastadeddau’r Rhyl a nawr gallwn ychwanegu Gwynt y Mor, sy’n hwb mawr i economi Cymru.”