Stori newyddion

Yr Ysgrifennydd Gwladol yn croesawu’r cynnydd yn nifer y bobl mewn gwaith yng Nghymru

Croesawodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y cynnydd yn nifer y bobl mewn gwaith yng Nghymru a’r gostyngiad yng ngraddfa’r anweithgarwch…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Croesawodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y cynnydd yn nifer y bobl mewn gwaith yng Nghymru a’r gostyngiad yng ngraddfa’r anweithgarwch economaidd..

Mae’r Ystadegau Llafur diweddaraf a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod y  raddfa o bobl mewn gwaith yng Nghymru  yn 67.3%, cynnydd o 0.2% ar y  chwarter diwethaf, tra bod graddfa’r anweithgarwch economaidd yng Nghymru I lawr i 26.2%, cwymp o 0.4% ar y chwarter diwethaf.

Ym mis Rhagfyr, roedd Cyfrif y rhai oedd yn hawlio budd-dal diweithdra yng Nghymru yn 71,000, cwymp o 8,000 ar yr un mis yn y flwyddyn flaenorol.

Dywedodd Mrs Gillan: “Mae hyn yn gwymp calonogol, fodd bynnag mae’n rhaid inni ddal i weithio gyda’n gilydd i oresgyn yr hyn a adawyd inni gan y Llywodraeth flaenorol.   Mae Anweithgarwch Economaidd yng Nghymru yn parhau’n uwch nac yn unman arall yn y DU, ar wahan I Ogledd Iwerddon a Gogledd Ddwyrain Lloegr, tra bod y raddfa diweithdra’r drydydd isaf yn y DU.

“Rydym yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth a’r Adran Gwaith a Phensiynau i anfon y neges bod gweithio’n talu, ac i weithio gyda  Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddod a mwy o fusnesau i Gymru er mwyn cynyddu’r cyfleoedd sydd ar gael i’n gweithlu  parod a bodlon  i weithio.”

Cyhoeddwyd ar 19 January 2011