Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn croesawu ymgyrch Google i roi busnesau ar-lein

Heddiw mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan wedi croesawu lansiad menter Google, ‘Cael Busnesau Cymru Ar-lein’. Bydd perchnogion busnes…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan wedi croesawu lansiad menter Google, ‘Cael Busnesau Cymru Ar-lein’.

Bydd perchnogion busnes yng Nghymru yn dod at ei gilydd yng Nghaerdydd i ymuno a Google wrth iddynt lansio eu hymgyrch blwyddyn - mewn partneriaeth a Llywodraeth Cymru - i helpu i roi hwb i’r economi ar-lein yng Nghymru.

Amcan digwyddiadau a gweithdai Google yw rhoi cymorth a chyngor i fusnesau beth bynnag fo’u harbenigedd technegol - o gychwyn a chreu eu gwefan gyntaf, i wella gwefan bresennol a marchnata ar-lein.

Dywedodd Mrs Gillan: “Mae annog busnesau bach yng Nghymru i fynd ar-lein a defnyddio’r rhyngrwyd yn hanfodol i’r economi yng Nghymru, ac rwy’n croesawu’r ffaith bod Google yn lansio ‘Cael Busnesau Cymru Ar-lein’ heddiw.

“Os nad ydy eich busnes wedi cysylltu a’r we, fe allech fod yn colli allan ar nifer o fuddion y byd digidol. Mae gan y rhyngrwyd y pŵer i symbylu twf o ran gwerthu a denu cwsmeriaid nad ydyn nhw’n “gyrru heibio’r drws”.

“Wrth gwrs, mae’r seilwaith a fydd yn galluogi busnesau i fanteisio ar y cyfleoedd ar-lein yn hanfodol. Mae Llywodraeth y DU wedi darparu £57 miliwn i wella band eang ledled Cymru. Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth i ddyheadau cwmniau am dwf a’u cysylltiadau, gan wneud Cymru yn lle gwych i sefydlu neu gynnal busnes.

“Llongyfarchiadau i Google am gyflwyno’r fenter hon ac i Lywodraeth Cymru am ei chefnogi. Gobeithio y bydd nifer o fusnesau yng Nghymru yn manteisio ar y cyfleoedd newydd sydd ar gael.”

Cyhoeddwyd ar 6 March 2012