Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn croesawu’r cynnydd pellach mewn lefelau cyflogaeth yng Nghymru

Heddiw, croesawodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan yr Ystadegau diweddaraf am y Farchnad Lafur a gyhoeddwyd heddiw, sy’n dangos bod…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw, croesawodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan yr Ystadegau diweddaraf am y Farchnad Lafur a gyhoeddwyd heddiw, sy’n dangos bod lefelau cyflogaeth yng Nghymru wedi cynyddu am y pedwerydd mis yn olynol.

Mae ffigurau’r Sefydliad Llafur Rhyngwladol yn dangos bod lefelau cyflogaeth yng Nghymru wedi codi 15,000 ers y chwarter olaf i 1.346m, 9,000 yn uwch na’r un chwarter yn 2010/11.

Mae ystadegau heddiw hefyd yn dangos bod cyfraddau a lefelau anweithgarwch economaidd yng Nghymru wedi gostwng, ac er bod y lefel diweithdra wedi codi fymryn, mae’r gyfradd wedi aros yr un fath.

Dywedodd Mrs Gillan:

“Mae’r ffaith bod lefelau cyflogaeth a gweithgarwch economaidd yng Nghymru wedi parhau i godi am y pedwerydd mis yn olynol yn newyddion calonogol iawn yn wir.

“Er bod y gyfradd diweithdra’n parhau i fod yn annerbyniol o uchel sef 8.9%, rydyn ni’n gweld rhywfaint o arwyddion calonogol bod pethau’n gwella.

“Mae’n amlwg bod llawer i’w wneud o hyd, ond mae llu o fesurau ar waith i fynd i’r afael a’r materion dan sylw, yn ogystal a helpu i hybu cyfleoedd twf ledled y wlad.”

Nodiadau i Olygyddion:

• 68.3% oedd y gyfradd cyflogaeth yng Nghymru, cynnydd o 0.1% ers y chwarter diwethaf

• Roedd y gyfradd diweithdra yn 8.9%, yr un fath a’r chwarter diwethaf ond 0.4% yn uwch na’r un chwarter yn 2010-11

• Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd yn 24.9%, sef 0.2% yn llai na’r chwarter diwethaf a 0.8% yn llai na’r un chwarter y llynedd

• Roedd cyfradd y rhai sy’n hawlio budd-dal diweithdra yn 5.6% ym mis Mawrth, yr un fath a mis Chwefror 2012 a 0.6% yn uwch o gymharu a’r llynedd

• Roedd lefel y bobl ifanc sy’n hawlio budd-dal diweithdra yn 28,500, cynnydd o 3,300 ers mis Mawrth 2011

• Mae’r Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO) yn cyfrif y nifer sy’n ddi-waith ond sydd eisiau swydd, sydd wedi bod yn chwilio am waith yn y pedair wythnos diwethaf ac sydd ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf; hefyd y rheini sydd allan o waith, sydd wedi dod o hyd i waith ac sy’n disgwyl dechrau yn y pythefnos nesaf.

Cyhoeddwyd ar 18 April 2012