Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn croesawu’r lleihad pellach yn ffigurau Diweithdra Cymru

Dywedodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru bod y ffigurau cyflogaeth diweddaraf ar gyfer Cymru a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod polisiau…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Dywedodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru bod y ffigurau cyflogaeth diweddaraf ar gyfer Cymru a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod polisiau economaidd y Llywodraeth yn llywio adferiad economaidd a chreu swyddi yng Nghymru i’r cyfeiriad cywir. **

Meddai Mrs Gillan:** “Rwy’n croesawu’r newyddion a gyhoeddwyd heddiw, sy’n dangos bod mwy o bobl yn gweithio, a bod nifer y bobl sy’n ddi-waith yn lleihau. Mae’r rhain yn ffigurau calonogol, ac maent yn dangos bod polisiau economaidd y Llywodraeth yn gweithio yng Nghymru. **

“Fodd bynnag, ni all Cymru fynd i’r afael a phroblem hirdymor diweithdra ar ei phen ei hun. Mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn y Cynulliad yn gweithio’n rhagweithiol gyda Llywodraeth y DU i greu’r amodau cywir ar gyfer creu swyddi a sicrhau twf economaidd yng Nghymru.** **Mae hyn yn cynnwys datblygu Parthau Menter a mentrau eraill a fydd yn ysgogi buddsoddiadau sector preifat.”

Hefyd, croesawodd Mrs Gillan y cwymp yn nifer y bobl yng Nghymru sy’n economaidd anweithgar.** Dywedodd: “Mae anweithgarwch economaidd yng Nghymru hefyd wedi lleihau 10,000 yn y chwarter diwethaf. Fodd bynnag, rydym yn dal i wynebu’r her o gynorthwyo rhagor o’r bobl sy’n ddi-waith yn y tymor hir i ymuno a’r byd gwaith. **Yr wythnos diwethaf, gwnaethom gyhoeddi bod y Rhaglen Waith newydd bellach wedi’i sefydlu ac ar waith, a bydd yn darparu cefnogaeth wedi’i theilwra ar gyfer rhagor o bobl sy’n hawlio budd-daliadau, gan gynnwys y rheini yng Nghymru.

“Er fy mod yn eu croesawu, mae ffigurau heddiw yn dangos na allwn fforddio llaesu dwylo wrth ymdrechu i gynnal a chreu swyddi yng Nghymru, gyda’r Llywodraethau yn Llundain a Chaerdydd yn cydweithio er mwyn manteisio i’r eithaf ar bob cyfle i helpu pobl i fynd i weithio.”**

Cyhoeddwyd ar 15 June 2011