Stori newyddion

Ysgrifennydd Cymru yn croesawu gwarant ariannol i gefnogi mwy o Fusnesau Bach i Ddatblygu yng Nghymru

Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi croesawu’r newyddion am yr estyniad i gynllun llwyddiannus gan y Llywodraeth i ariannu twf…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi croesawu’r newyddion am yr estyniad i gynllun llwyddiannus gan y Llywodraeth i ariannu twf mewn cwmniau bach hyfyw - ac i helpu sicrhau bod dyheadau’n troi’n weithredoedd a chreu swyddi mwy sector preifat yng Nghymru.

Bydd y cynllun llwyddiannus Gwarantu Cyllid i Fentrau yn parhau dros y pedair blynedd nesaf, gan olygu y bydd oddeutu £2 biliwn ar gael i gwmniau bach hyfyw heb hanes credyd neu ernes.  Bydd hyn yn rhoi cymorth bob blwyddyn i oddeutu 6,000 o fentrau bach a chanolig ledled y DU.

Dywedodd Mrs Gillan: “Busnesau bach yw asgwrn cefn economi Cymru ac maent yn hanfodol ar gyfer ein twf yn y dyfodol. Mae bron hanner gweithwyr Cymru’n cael eu cyflogi gan fusnesau bach a chanolig.

“Mae sicrhau bod busnesau hyfyw yn cael gafael ar ffynonellau addas ac amrywiol o gyllid yn hollbwysig i helpu i godi’r economi eto.  Mae’r llywodraeth yn ymroddedig i greu’r amodau ar gyfer twf cryf a chynaliadwy, drwy sicrhau bod gan y DU marchnadoedd effeithlon, deinamig a chystadleuol sy’n darparu’r cymorth priodol i fusnesau. Mae’r cyhoeddiad hwn yn gam pwysig i sicrhau bod hyn yn digwydd.

Roedd Mrs Gillan yn siarad yn dilyn ymweliad a WestBridge Capital yng Nghaerdydd, busnes ecwiti preifat sy’n cynnig buddsoddiad o hyd at £5 miliwn mewn busnesau bach a chanolig sy’n broffidiol ac yn tyfu’n gyflym ledled y DU.  Mae’r cwmni’n ymroddedig i gadw 25 y cant o enillion buddsoddiad yng Nghymru, ac ymhlith busnesau Cymru i gael buddsoddiad mae Mobile Computing Systems yn Abertawe, Ambiensis yng Nghaerdydd ac Isotemp Ductwork yng Ngwent.

Dywedodd Mrs Gillan: “ Yr wythnos diwethaf, cefais gyfle i gwrdd a rhai o dalent busnes gorau Cymru eleni yng Ngwobrau Fast Growth 50 Cymru.

“Mae busnesau bach fel y rhai Fast Growth 50 yn hanfodol ar gyfer twf yng Nghymru.  Ond er mwyn ehangu mae angen iddynt gael gafael ar amrywiaeth o ddewisiadau cyllid.  Mae’r Llywodraeth yn chwarae ei rhan drwy gefnogi gwerth £2 biliwn yn ychwanegol o fenthyciadau gan fanciau drwy’r cynllun poblogaidd Gwarantu Cyllid i Fentrau. Bydd hyn yn rhoi cymorth go iawn i gwmniau bach hyfyw, yn union fel y rhai Fast Growth 50, sy’n awyddus i dyfu.

“Ers mis Ebrill 2010, gwelwyd 125 o achosion cymwys am gyllid cynllun Gwarantu Cyllid i Fentrau yng Nghymru, gyda chyfanswm gwerth o £11.86 miliwn.  Bydd hyd yn oed mwy o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru yn gallu manteisio’n awr ar y cyllid hwn, gan greu swyddi a chyfleoedd newydd a chryfhau economi Cymru ar gyfer y dyfodol.”

Cyhoeddwyd ar 2 November 2010