Ysgrifennydd Cymru’n croesawu’r gostyngiad yng nghyfradd anweithgarwch economaidd Cymru
Croesawodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, y cynnydd bychan yng nghyfradd cyflogaeth yng Nghymru heddiw, ynghyd a’r gostyngiad yng…
Croesawodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, y cynnydd bychan yng nghyfradd cyflogaeth yng Nghymru heddiw, ynghyd a’r gostyngiad yng nghyfradd anweithgarwch economaidd Cymru.
Mae Ystadegau diweddaraf y Farchnad Lafur a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod cyfradd cyflogaeth Cymru wedi codi i 67.1%. Yn y cyfamser, gostyngodd cyfradd anweithgarwch economaidd Cymru 0.3% yn y chwarter olaf i 26.3%.
Meddai Mrs Gillan: “Tra croesewir y ffigyrau hyn am gyfraddau anweithgarwch economaidd a chyflogaeth yng Nghymru, maent yn atgyfnerthu’r angen am wyliadwriaeth gyson a gweithredu cydlynus ar draws Llywodraethau i sicrhau ein bod yn gwneud yn fawr o’r cyfleoedd i gynnal a chreu cyflogaeth yng Nghymru.”