Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn croesawu’r twf yn Economi’r DU

Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru, wedi croesawu’r twf o 0.8 y cant, a oedd yn fwy na’r disgwyl, yn economi’r DU rhwng mis Gorffennaf a …

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru, wedi croesawu’r twf o 0.8 y cant, a oedd yn fwy na’r disgwyl, yn economi’r DU rhwng mis Gorffennaf a mis Medi.

Dywedodd Mrs Gillan: “Dyma’r twf mwyaf ar gyfer y cyfnod rhwng Gorffennaf a Medi a welwyd yn economi’r DU er 1999, ac mae’n dangos gwir hyder ym mholisiau economaidd y Llywodraeth glymblaid.

“Gan gyfuno hyn a’r ffigurau cyflogaeth diweddaraf ar gyfer Cymru - a ddangosodd fod 12,000 mwy o bobl wedi cael swyddi ym mhob cwr o Gymru - mae’n iawn i ni fod yn hyderus ei bod yn ymddangos bod adferiad economaidd sefydlog ar y gorwel, er bod y sefyllfa economaidd fyd-eang yn parhau’n ansicr .”

Ychwanegodd Mrs Gillan: “Mae’r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i wneud popeth y gallwn i gefnogi cwmniau yn y sector preifat. Dim ond drwy dyfu a datblygu ein sector preifat yng Nghymru ac yng ngweddill y DU y gallwn adfer cydbwysedd ein heconomi, a gwyrdroi’r blynyddoedd o ddirywiad cymdeithasol ac economaidd ar yr un pryd.

“Mae angen i ni’n awr sicrhau y bydd y twf hwn yn parhau’n gryf, yn gynaliadwy ac wedi’i seilio’n gadarn yn y sector preifat. Rhaid inni feithrin busnesau cynhenid drwy greu amgylchedd sy’n eu helpu i lwyddo, gan wneud Cymru’n lle gwych i wneud busnes ac i greu swyddi.”

Mae’r ffigur 0.8% o dwf mewn Cynnyrch Mewnwladol Crynswth a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol heddiw, yn dilyn yr 1.2% o dwf a welwyd yn ail chwarter y flwyddyn, ac mae ddwywaith yn fwy na’r ffigur 0.4% a ddisgwylid gan ddadansoddwyr.

Cyhoeddwyd ar 26 October 2010