Stori newyddion

Ysgrifennydd Cymru yn croesawu Dirprwy Brif Weinidog y DU i Gymru

Heddiw (dydd Iau, 30 Medi), ymunodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a Nick Clegg, Dirprwy Brif Weinidog y DU, ar ei ymweliad swyddogol…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Cheryl Gillan gyda'r Dirprwy Brif Weinidog yn y Senedd ym Mae CaerdyddHeddiw (dydd Iau, 30 Medi), ymunodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a Nick Clegg, Dirprwy Brif Weinidog y DU, ar ei ymweliad swyddogol cyntaf a’r Senedd ym Mae Caerdydd.

Wrth groesawu ymweliad Mr Clegg a Chymru, dywedodd Mrs Gillan: “Dyma’r gydnabyddiaeth ddiweddaraf o’r agenda o barch rhwng y Llywodraeth glymblaid yn San Steffan a Llywodraeth Cynulliad Cymru ym Mae Caerdydd.

“Mae ymweliad y Dirprwy Brif Weinidog heddiw yn dilyn yr ymrwymiad a wnaeth y Prif Weinidog yn ystod ei ymweliad a Chaerdydd, rai dyddiau ar ol dechrau ar ei swydd, i weithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn cyflwyno ein dyheadau ar gyfer pobl Cymru”.

Croesawyd Mrs Gillan a Mr Clegg ar risiau adeilad y Senedd gan yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas, y Llywydd, a fu’n arwain y grŵp ar daith o amgylch Siambr y Cynulliad cyn y cyfarfod tair ochr.  

Bu’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd Cymru mewn cyfarfodydd a Phrif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidog Cymru hefyd, a chyda Nick Bourne, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, a Kirsty Williams, Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.

Yn ddiweddarach, bu Mrs Gillan a Mr Clegg mewn cinio yn Neuadd y Ddinas Caerdydd gydag aelodau CBI Cymru.

Ychwanegodd Mrs Gillan: “Mae hon yn fath newydd o Lywodraeth - Llywodraeth sy’n rhoi pwyslais ar gydweithio ymhlith pleidiau er mwyn sicrhau buddiannau cenedlaethol. Yn y pen draw, mae arnom eisiau’r un peth - sicrhau’r gorau i Gymru. Mae Swyddfa Cymru yn bont rhwng Cymru a San Steffan, sy’n cynrychioli Cymru yn Whitehall drwy gyswllt agosach ag Adrannau eraill, ac yn llais dros San Steffan yng Nghymru.  Mae’n rhaid i hynny weithio’r ddwy ffordd, ac mae hynny wir yn digwydd.

“Ers i mi gael fy mhenodi’n Ysgrifennydd Gwladol, rwyf wedi gweld ysbryd newydd yn Swyddfa Cymru. Mae’r agwedd o gydweithredu yn hytrach na gwrthdaro yn rhywbeth newydd i wleidyddion, ac rwy’n gobeithio meithrin a gwella’r lefelau cyfathrebu.

“Byddaf yn cwrdd yn rheolaidd a Phrif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidog Cymru, ac rwyf wedi annerch Cabinet Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r cyfarfodydd hyn yn caniatau i ni drafod problemau cyffredin ac i weithio tuag at atebion cyffredin. Dyma enghraifft o wleidyddiaeth aeddfed a llawn parch ar  ei gorau, sy’n sicrhau ein bod yn darparu ar gyfer y rheini rydym yn bennaf atebol iddynt - pobl Cymru.”

Cyhoeddwyd ar 30 September 2010