Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn croesawu’r Ysgrifennydd Amddiffyn i ganolfannau yng Nghymru sydd ar y blaen o ran hyfforddiant ac addysg

Mae Ysgrifennydd Cymru a Gweinidog Llywodraeth y DU dros Gymru yn ymuno â’r Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn ar ei ymweliad cyntaf â chanolfan yng Nghymru

Defence Secretary, Welsh Secretary and Minister Adams meet trainees at RAF St. Athan

Defence Secretary, Welsh Secretary and Minister Adams meet trainees at RAF St. Athan

Bydd Gavin Williamson, Alun Cairns a Nigel Adams yn teithio ar hyd a lled Cymru yn ymweld â rhai o’r canolfannau yng Nghymru sy’n cyfrannu at allu hanfodol y DU i amddiffyn. Drwy siarad â’r rheini sy’n cael hyfforddiant mewn hedfan jetiau cyflym mewn awyrennau Hawk yn RAF Y Fali a gweld yr hyn sydd ar gael yn yr Ysgol Hyfforddiant Technegol yn Sain Tathan, bydd Gweinidogion Llywodraeth y DU yn cael gweld drostynt eu hunain beth sydd gan Gymru i’w gynnig o ran amddiffyn, diogelwch ac arloesi.

Yn ystod eu hymweliad ag RAF Sain Tathan, bydd Gweinidogion Llywodraeth y DU yn cwrdd â chynrychiolwyr sydd ar reng uchel o’r RAF a’r fyddin yng Nghymru. Byddant yn trafod eu huchelgais ar gyfer dyfodol canolfan De Cymru yn y cyfarfodydd.

Mae Ysgol Hyfforddiant Hedfan Rhif 4 yn RAF Y Fali ar Ynys Môn, ac mae’n gyfrifol am hyfforddi cenhedlaeth nesaf y DU o beilotiaid awyrennau ymladd o’r radd flaenaf. Dyma’r tro cyntaf y bydd yr Ysgrifennydd Amddiffyn yn ymweld â’r ganolfan, a bydd Gweinidogion Llywodraeth y DU yn cael cyfle i gwrdd â rhai o’r 2,210 o bersonél rheolaidd Lluoedd Arfog y DU yng Nghymru a chlywed am eu profiadau yng nghanolfan Ynys Môn a’r tu hwnt. Mae Gweinyddiaeth Amddiffyn Llywodraeth y DU wedi buddsoddi cyfanswm o £945 miliwn mewn busnesau yng Nghymru yn 2016/17, felly erbyn hyn, Cymru yw un o’r llefydd mwyaf cystadleuol yn y byd i arloesi, adeiladu busnes a darparu diogelwch. Wrth siarad â chomanderiaid yn RAF Y Fali a Sain Tathan, bydd Gweinidogion Llywodraeth y DU yn atgyfnerthu’r cymorth hanfodol hwn ar gyfer y sector amddiffyn yng Nghymru ac yn amlinellu eu gweledigaethau ar gyfer ei ddyfodol.

Dywedodd Gavin Williamson, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn:

Mae’r 2,210 o bersonél rheolaidd a’r 1,080 wrth gefn yn y Lluoedd Arfog yng Nghymru yn gwneud cyfraniad aruthrol i ddiogelwch a ffyniant y Deyrnas Unedig. Yng Nghymru mae Pencadlys ein 160fed Brigâd, yn ogystal â’r uned troedfilwyr ysgafn. Mae’r ysgol hyfforddiant i beilotiaid mewn hedfan jetiau cyflym yn RAF Y Fali, eu hysgol ar gyfer peirianneg maes yn y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Sain Tathan heb anghofio’r cyfleusterau hyfforddi yn ardal Aberhonddu.

Mae’r sector amddiffyn yn buddsoddi £945 miliwn mewn busnesau yng Nghymru bob blwyddyn, gan gefnogi 6,300 o swyddi, o General Dynamics ym Merthyr Tudful, sy’n adeiladu cerbydau arfog ar gyfer y Fyddin, i waith uwch dechnoleg Qinetiq yn Aberporth, a’r Asiantaeth Electroneg a Chydrannau Amddiffyn yn Sir y Fflint, sy’n cefnogi ein jetiau cyflym RAF F-35 sydd gyda’r gorau yn y byd.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae RAF Y Fali a Sain Tathan yn enghreifftiau gwych o sut mae sector amddiffyn y DU yn ein gwarchod ni rhag bygythiadau byd-eang yn ogystal â meithrin ffyniant, creu miloedd o swyddi medrus a chynhyrchu miliynau o bunnau mewn allforion.

Ar ôl gweld y doniau o safon fyd-eang yma yn ein canolfannau yn ogystal â’r milwyr sydd gennym yn barhaus yn Afghanistan, rwy’n fwy penderfynol nag erioed o sicrhau a chryfhau ôl troed milwrol Cymru.

Dywedodd Nigel Adams, Gweinidog Llywodraeth y DU dros Gymru:

Mae’r hyfforddiant o’r radd flaenaf sydd ar gael yn y canolfannau ledled Cymru wir yn brawf o gryfder y sector amddiffyn yng Nghymru. Gyda milwyr, criwiau awyr a llongwyr o Gymru yn gweithio ar hyd a lled y byd, mae modd gweld a theimlo’r sgiliau a’r arbenigedd sy’n cael eu meithrin yma ar lefel fyd-eang. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ddiogelu enw da Cymru am ddarparu rhagoriaeth filwrol, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio’n agos gyda’r Ysgrifennydd Amddiffyn er mwyn hybu’r llwyddiant yma.

Bydd Gweinidogion Llywodraeth y DU yn dysgu am y cymorth amhrisiadwy sy’n cael ei roi i gyn-filwyr yn Ne Cymru ar ôl ymweld â’r ddwy ganolfan RAF. Mae Woody’s Lodge yn helpu cyn-filwyr i ailgysylltu â’u teuluoedd a’u cymunedau. Mae hefyd yn lle croesawus i gyn-filwyr fynd i gael cymorth a chyngor.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Ar ôl i Lywodraeth y DU, Llywodraeth Yr Alban, Llywodraeth Cymru a Swyddfa Gogledd Iwerddon lansio Strategaeth Cyn-filwyr y DU gyfan yn ddiweddar, mae’n galonogol ymweld â mudiad sydd wedi bod yn gweithio tuag at gyflawni rhai o brif nodau’r strategaeth yma yn Ne Cymru ers blynyddoedd.

Mae Woody’s Lodge yn cefnogi cyn-filwyr i wynebu rhai o’r heriau a’r problemau amrywiol sy’n eu hwynebu pan fyddant yn gadael y lluoedd arfog. Drwy ymweld â mudiadau o’r fath, gall Llywodraeth y DU ddeall yr heriau hyn yn well a sicrhau bod gennym yr wybodaeth i gyd er mwyn darparu strategaeth sy’n gweithio.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 18 January 2019