Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru’n croesawu ymddangosiad Danny Alexander gerbron un o Bwyllgorau’r Cynulliad

Mae ymddangosiad Prif Ysgrifennydd y Trysorlys gerbron Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru heddiw [Dydd Llun 22 Tachwedd] yn cadarnhau…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae ymddangosiad Prif Ysgrifennydd y Trysorlys gerbron Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru heddiw [Dydd Llun 22 Tachwedd] yn cadarnhau agenda parch y Llywodraeth rhwng Whitehall a Bae Caerdydd, meddai Ysgrifennydd Cymru Cheryl Gillan.

Danny Alexander oedd y Gweinidog Cyntaf o Lywodraeth y DU i annerch Pwyllgor y Cynulliad a gofynnwyd cwestiynau iddo gan Aelodau’r Cynulliad ynghylch yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant.

Dywedodd Mrs Gillan:  “Mae gwleidyddiaeth wedi camu i mewn i gyfnod newydd - cyfnod o barch a chydweithio.  Ymddangosiad Prif Ysgrifennydd y Trysorlys gerbron y Pwyllgor heddiw yw’r enghraifft ddiweddaraf o’n hagenda parch ar waith.  Mae hyn yn adeiladu ar nifer o ymweliadau eraill, gan gynnwys yr adeg y bu i mi annerch y Cynulliad ar y Gyllideb frys ym mis Mehefin.

“David Cameron oedd y Prif Weinidog cyntaf i ymweld a’r Senedd ychydig ddyddiau ar ol cychwyn yn ei swydd, ac fe’i dilynwyd gan y Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg ym mis Medi.  Yr wythnos ddiwethaf euthum a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau Iain Duncan Smith i gwrdd a’r Prif Weinidog Carwyn Jones ym Mae Caerdydd.  Mae’r Llywodraeth glymblaid wedi addo cydweithio a’r Cynulliad er budd y genedl, ac rwy’n gobeithio y ceir sawl enghraifft arall eto o Weinidogion y DU yn ymweld a Bae Caerdydd yn y dyfodol.”

Cyhoeddwyd ar 22 November 2010