Ysgrifennydd Cymru yn croesawu’r Cabinet i Gymru
Croesawodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, y Prif Weinidog a chyd-aelodau’r Cabinet i Gymru ar gyfer cyfarfod cyntaf Cabinet Llywodraeth…
Croesawodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, y Prif Weinidog a chyd-aelodau’r Cabinet i Gymru ar gyfer cyfarfod cyntaf Cabinet Llywodraeth y glymblaid yng Nghymru, yn y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant heddiw (dydd Mawrth, 12 Gorffennaf).
Aeth yr Ysgrifennydd Gwladol i gyfarfod Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, gyda’r Prif Weinidog, David Cameron a’r Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg, cyn teithio i’r Bathdy Brenhinol ar gyfer cyfarfod diweddaraf y Cabinet y tu allan i Lundain. Roedd Mrs Gillan gyda’r Prif Weinidog pan oedd yn annerch yr Aelodau yn y Cynulliad Cenedlaethol hefyd.
Dywedodd Mrs Gillan: “Roedd yn bleser gen i groesawu’r Cabinet i Gymru heddiw. Mae’n dangos ymrwymiad y Llywodraeth i Gymru, ymrwymiad i berthynas waith agosach gyda Llywodraeth Cymru, a rhwng y Senedd a’r Cynulliad er budd Cymru.
“Mae’r cyfarfodydd a’r ymweliadau heddiw yn atgyfnerthu’r agenda o barch rhwng y llywodraethau yn San Steffan a Bae Caerdydd. David Cameron yw’r ail Brif Weinidog yn unig i annerch Aelodau’r Cynulliad, ac roedd ein cyfarfod a Phrif Weinidog Cymru yn un gwresog, adeiladol a chydsyniol.”
Mae araith y Prif Weinidog yn y Cynulliad Cenedlaethol ar gael yma.