Stori newyddion

Ysgrifennydd Cymru’n croesawu hwb ariannol gan Fanc Lloegr i hybu benthyca

This news article was published under the 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw (13eg Gorffennaf) croesawodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan gynllun gan y Trysorlys a Banc Lloegr sydd a’r bwriad o hybu rhoi…

Heddiw (13eg Gorffennaf) croesawodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan gynllun gan y Trysorlys a Banc Lloegr sydd a’r bwriad o hybu rhoi benthyciadau i gartrefi a busnesau yn y DU a symbylu twf yn yr economi.

Caiff banciau a chymdeithasau adeiladu fenthyg yn rhatach na gan Fanc Lloegr drwy Gynllun Cyllid i Fenthyca (FLS) Banc Lloegr am gyfnewid asedau fel benthyciadau busnes neu forgeisi.   

Caiff banciau cymwys fenthyg hyd at 5% o’u stoc o fenthyciadau sy’n ddyledus i economi real y DU ar y cychwyn. Er enghraifft, mae 5% o’r stoc o fenthyciadau presennol ar draws pob banc cymwys posibl yn gyfwerth a thua £80bn. Mae’r cynllun yn rhoi cymhellion cryf i fanciau roi rhagor o fenthyciadau - caiff banciau sy’n rhoi benthyciadau fenthyg mwy drwy’r cynllun, a byddant yn talu llai am wneud hynny.

Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn cyfarfod a nifer o fusnesau bach a chanolig yn Farnborough heddiw, ble bydd yn cyfarfod unigolion allweddol o’r diwydiant awyrofod yng Nghymru, a all elwa o gyhoeddiad heddiw.

Dywedodd Mrs Gillan: “Y pryder y mae busnesau hyd a lled Cymru’n ei fynegi amlaf yw a oes arian ar gael. Felly, rwy’n croesawu’r cyhoeddiad heddiw, a gobeithio y bydd ein banciau ar y stryd fawr yn cymryd mantais o’r cyfle hwn, a all roi hwb y mae ei wir angen, nid yn unig i fusnesau, ond hefyd i bobl sy’n ceisio cael morgais a phobl sy’n prynu am y tro cyntaf. Mae gan fusnesau bach a chanolig rol allweddol o ran symbylu ein hadferiad economaidd, gyda dros 200,000 yng Nghymru’n unig. Mae hyn yn arwydd o ba mor benderfynol ydyn ni i wneud popeth o fewn ein gallu i gynorthwyo gyda’u twf.

“Mae hon yn llywodraeth sydd o blaid busnesau, ac rydyn ni eisoes wedi cymryd camau pendant i wella amodau masnachu, buddsoddi a thwf yn yr economi, gan gynnwys lleihau’r baich rheoleiddio ar ein busnesau gyda’n Her Biwrocratiaeth a gostwng Treth Gorfforaeth. Mae’n rhaid i ni barhau i greu’r amodau iawn i helpu busnesau yng Nghymru i ffynnu, a’r neges rwy’n ei chlywed dro ar ol tro gan aelodau o’m Grŵp Cynghori ar Fusnes a busnesau ar lawr gwlad yng Nghymru yw bod angen gwella pa mor rhwydd yw cael cyllid. Mae hyn yn dangos ein bod ni’n gwrando.”  

Am ragor o wybodaeth ewch i:** **

http://www.hm-treasury.gov.uk/

www.bankofengland.co.uk/publications/news