Ysgrifennydd Cymru yn croesawu cytundeb Airbus ag American Airlines
Mae Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, wedi croesawu’r newyddion bod Airbus wedi cael yr archeb fwyaf erioed o 260 awyren gan American Airlines…
![](https://assets.publishing.service.gov.uk/media/5a37dabaed915d5a5f965fd7/s300_UKG_Logo__2_.png)
Mae Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, wedi croesawu’r newyddion bod Airbus wedi cael yr archeb fwyaf erioed o 260 awyren gan American Airlines, wrth i’r cwmni Americanaidd uwchraddio ei fflyd i gynnwys awyrennau gyda’r datblygiadau diweddaraf a pheiriannau sy’n fwy effeithlon o ran tanwydd.
Bydd Airbus yn darparu cyfuniad o’r awyrennau A320, A319 ac A321 i’r pedwerydd cwmni awyrennau mwyaf yn yr Unol Daleithiau, ac yn y ffatri ym Mrychdyn yn sir y Fflint y caiff yr adenydd eu cynhyrchu.
Dywedodd Mrs Gillan: “Mae hwn yn newyddion da i’r gweithwyr a’r cyflogwyr yn Airbus, sydd wedi llwyddo i sicrhau’r archeb sylweddol hwn gan gwmni awyrennau sy’n adnabyddus yn fyd-eang. “Mae hyn yn tystio bod Airbus yn parhau i feithrin technolegau arloesol a blaengar yng Ngogledd Cymru i wneud adenydd rhai o’r awyrennau diweddaraf yn y byd.
“Mae’r sector cadwyn cyflenwi a’r diwydiant awyrofod yng Nghymru ymhlith y gorau yn y byd, yn darparu gwasanaeth a chymorth o’r radd flaenaf i’w cwsmeriaid. Mae’r cwmni’n gwneud cyfraniad hanfodol at economi Cymru a’r DU ac mae busnesau fel Airbus yn chwarae rol allweddol yn ein helpu i gyflawni ein hamcanion i ddatblygu Cymru fel lle delfrydol i wneud busnes.”
Roedd Mrs Gillan wedi ymweld a’r ffatri ym Mrychdyn yn y gwanwyn hefyd, lle cyfarfu a’r rheolwyr yn ogystal a phobl ifanc sy’n elwa o leoliadau profiad gwaith a rhaglen prentisiaethau’r cwmni.