Yr Ysgrifennydd Gwladol yn croesawu buddsoddiad HDM Steel o £7m
Heddiw, (3 Hydref) croesawodd David Jones yr Ysgrifennydd Gwladol y cyhoeddiad bod HDM Steel Pipe, cwmni dur o Twrci, yn sefydlu cyfleuster …
Heddiw, (3 Hydref) croesawodd David Jones yr Ysgrifennydd Gwladol y cyhoeddiad bod HDM Steel Pipe, cwmni dur o Twrci, yn sefydlu cyfleuster cynhyrchu newydd yng Nghaerdydd.
Gwnaed y cyhoeddiad gan Nick Clegg, y Dirprwy Brif Weinidog yn ystod taith fasnach i Dwrci.
Dywedodd HDM Steel Pipe bod y ffaith fod Caerdydd yn lleoliad ardderchog ar gyfer dosbarthu i gleientiaid ar draws Ewrop, a chael at weithlu medrus a thalentog Cymru, yn ffactorau hanfodol wrth benderfynu’r lleoliad i fuddsoddi £7m. Bydd cyfanswm o 38 o swyddi yn cael eu creu yn y ddinas, gyda lle i ehangu ymhellach yn y dyfodol.
Wrth groesawu’r cyhoeddiad heddiw, dywedodd Mr Jones:
“Mae’r esiampl hwn o dwf yn y sector breifat yr union fath o fuddsoddiad mae Cymru ei angen ar gyfer ffyniant economaidd i’r dyfodol. “
“Mae gan Gymru hanes hir ac enw da iawn yn y diwydiant gwneud dur, a bydd y cyfle hwn yn caniatau i weithwyr Cymru rannu yn nhwf a llwyddiant HDM Steel.”
“Mae cyhoeddiad heddiw yn dangos hyder o ddifrif yn nhalent, arbenigedd a sgiliau’n gweithwyr, a heb os nac oni bai, bydd yn gwella enw’r DU fel lleoliad ardderchog ar gyfer y math hwn o fuddsoddiad.”
**DIWEDD **
NODIADAU I OLYGYDDION**
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog yn arwain dirprwyaeth fusnes i Dwrci i gryfhau cysylltiadau diplomyddol a chysylltiadau busnes.
Bydd Michael Fallon, y Gweinidog Busnes, yn ymuno a’r Dirprwy Brif Weinidog a dirprwyaeth fusnes yn cynnwys 18 Prif Swyddog Gweithredol ac Uwch Swyddog Gweithredol o gwmniau’n cynnwys Arup, Mott McDonald, AECOM, Lloyds of London a Cella Energy. Gyda’u gilydd, a chyda’u cymheiriaid o Dwrci, byddant yn trafod deliantau a mentrau busnes newydd sydd a’r potensial i fod yn werth i fyny at hanner biliwn o bunnoedd.