Ysgrifennydd Cymry yn croesawu £200m o hyblygrwydd diwedd blwyddyn ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru
Heddiw croesawodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Cheryl Gillan gadarnhad Prif Ysgrifennydd y Trysorlys y bydd y Llywodraeth yn caniatau i Lywodraeth…
Heddiw croesawodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Cheryl Gillan gadarnhad Prif Ysgrifennydd y Trysorlys y bydd y Llywodraeth yn caniatau i Lywodraeth Cynulliad Cymru ddefnyddio oddeutu £200m o hyblygrwydd diwedd blwyddyn eleni.
Mae cyhoeddiad heddiw yn dilyn adolygiad ledled y DU o hyblygrwydd diwedd blwyddyn gan Adrannau’r Llywodraeth a’r Gweinyddiaethau Datganoledig ac mae’n rhan o gyhoeddiad ehangach Prif Ysgrifennydd y Trysorlys ynghylch lleihau gwariant yn dibynnu ar faint o danwario a fu.
Meddai Mrs Gillan: “Yn dilyn yr adolygiad, mae’n amlwg bod angen i ni dynhau’r mynediad at hyblygrwydd diwedd blwyddyn ond wrth gadw at yr agenda o barch, bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gallu defnyddio stociau penodol o hyblygrwydd diwedd blwyddyn eleni.
“Mae hyn yn golygu er gwaethaf yr heriau enfawr a wynebwn o ran y gyllideb ein bod wedi llwyddo i sicrhau bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gallu defnyddio oddeutu £200m o arian hyblygrwydd diwedd blwyddyn eleni. Rwy’n gwybod y bydd hyn o fudd sylweddol i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.”
Nodiadau:
Mae’r stociau o hyblygrwydd diwedd blwyddyn, mewn gwirionedd, yn cynrychioli tanwariant sydd wedi cronni dros y blynyddoedd blaenorol.
Mae’r Llywodraeth wedi bod yn adolygu’r weithred o hawlio hyblygrwydd diwedd blwyddyn eleni fel rhan o’i gwaith i leihau’r diffyg yng nghyllideb y DU.