Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn ymweld â Menywod Sefydliad Cyfarwyddwyr Gogledd Cymru

Er mwyn dathlu 101fed Diwrnod Rhyngwladol y Merched, cyfarfu Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan heddiw (8 Mawrth) gyda menywod o Sefydliad…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Er mwyn dathlu 101fed Diwrnod Rhyngwladol y Merched, cyfarfu Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan heddiw (8 Mawrth) gyda menywod o Sefydliad Cyfarwyddwyr Gogledd Cymru (IoD), er mwyn trafod cyfraniad merched i dwf economaidd, arweinyddiaeth a mentora yng Ngwesty Bodysgallen ger Llandudno.

Eleni, bydd Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn nodi rhaglen o ymgysylltu a merched, er mwyn sicrhau bod y rhaglenni a mentrau diwygio amrywiol yn berthnasol i ferched ac yn adlewyrchu eu profiadau a’u huchelgeisiau.
Mae’r IoD, sefydliad hynaf y DU a sefydlwyd er mwyn ceisio gwasanaethu a chefnogi arweinwyr busnes yng ngogledd Cymru, yn croesawu aelodau o lefel rheoli i fyny. Mae’r aelodau yn elwa o amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys cyngor busnes am ddim, rhaglen hyfforddiant lawn, a chyfleusterau ymchwil a digwyddiadau rhwydweithio.

Wrth siarad ar ol y cyfarfod, dywedodd Mrs Gillan, a fu’n flaenorol yn Weinidog dros Ferched yn Llywodraeth John Major: “Mae blaenoriaethu’r economi ac amlygu’r holl amrediad o fesurau sydd ar gael neu’n cael eu defnyddio i gefnogi merched o wireddu eu potensial llawn o ran mentora busnes, tal cyfartal, gweithio hyblyg ac absenoldeb rhieni a chydraddoldeb yn hynod o bwysig.

“Mae Helen Watson ac aelodau eraill Sefydliad Cyfarwyddwyr Gogledd Cymru yn ferched ysbrydoledig, sy’n awyddus i rannu arbenigedd, creu gwaith a chreu twf tymor hir er mwyn symud economi gogledd Cymru yn ei blaen.”

Dywedodd Helen Watson, Cadeirydd Sefydliad Cyfarwyddwyr Gogledd Cymru: “Roedd hwn yn gyfle gwych i drafod prif faterion economaidd gogledd Cymru gyda’r Ysgrifennydd Gwladol. Mae’r IoD yn cefnogi pob menter i gynyddu twf economaidd y rhanbarth, gan gynnwys datblygu merched mewn swyddi uwch.”

Cyhoeddwyd ar 8 March 2012