Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ymweld â chyrtiau tennis wedi'u hadnewyddu

Ymwelodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies AS â chyrtiau wedi'u hadnewyddu'n llawn ym Mharc Six Bells yn Abertyleri

  • Rhoddwyd bywyd newydd i’r cyrtiau fel rhan o fuddsoddiad sy’n werth £30 miliwn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Sefydliad Tennis yr LTA, wedi ei gyflawni gan yr LTA, i filoedd o gyrtiau mewn cyflwr gwael neu anaddas ledled Prydain.
  • Cafodd Parc Six Bells 285 awr o archebion yn ystod y chwe wythnos ers ailagor yn dilyn ymgyrch leol i annog pobl i gymryd rhan

Bu Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies AS, yn ymweld â chyrtiau tennis cyhoeddus sydd newydd gael eu hadnewyddu ym Mharc Six Bells, Abertyleri, sy’n un yn unig o’r parciau ledled Cymru sy’n elwa ar fuddsoddiad o £30 miliwn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Sefydliad Tennis LTA, a gyflwynir gan LTA, i gyrtiau tennis mewn parciau ledled Prydain.

Mae’r cyrtiau sydd wedi cael eu hadnewyddu ym Mharc Six Bells wedi cael eu hailwynebu a’u hailbeintio’n llawn, er mwyn galluogi’r gymuned leol i’w defnyddio nhw unwaith eto, diolch i dros £35,000 o gyllid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Sefydliad Tennis yr LTA.

Cafodd y cyrtiau sydd newydd gael eu hadnewyddu werth 285 awr o archebion yn ystod y chwe wythnos ers iddynt ailagor ym mis Mai, sy’n dangos yr awydd lleol am gyfleoedd i chwarae tennis.

Dywedodd David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn parhau i fuddsoddi’n sylweddol mewn cyfleusterau ar lawr gwlad, gan helpu cymunedau i sicrhau’r manteision iechyd a chymdeithasol enfawr a ddaw yn sgil chwaraeon.

Roeddwn wrth fy modd o weld, mor agos at ddiwedd Pencampwriaethau Wimbledon, y cyfleusterau newydd ym Mharc Six Bells a fydd yn galluogi pobl o bob rhan o’r ardal i roi cynnig ar chwarae tennis ac i genedlaethau o chwaraewyr yn y dyfodol ddatblygu eu sgiliau.

Mae Prosiect Tennis Parciau yn gwneud gwelliannau hollbwysig i gyflwr dros 3,000 o gyrtiau tennis mewn parciau ledled Cymru, Lloegr a’r Alban, gan roi wyneb newydd ac ailbeintio’r parciau hynny sydd yn y cyflwr gwaethaf, a chanolbwyntio’n benodol ar dargedu anghydraddoldebau o ran cyfranogiad. Dyma’r buddsoddiad mwyaf sylweddol mewn cyrtiau tennis mewn parciau ers cenhedlaeth.

Mae dros 1,000 gyrtiau mewn parciau wedi cael eu hadnewyddu ledled Prydain erbyn hyn. Mae gwaith ar barciau yng Nghymru bellach wedi ei gwblhau ym Mro Morgannwg a Chasnewydd, gyda gwaith yn mynd rhagddo ar safleoedd ar draws Wrecsam, Conwy, Caerffili a Phen-y-bont ar Ogwr, ac ar ei ffordd ar draws nifer o awdurdodau lleol eraill.

Dywedodd Paul Bennett, Pennaeth Cyflawni Buddsoddi mewn Parciau yr LTA:

Mae’r cyrtiau sydd wedi eu huwchraddio ym Mharc Six Bells yn enghraifft wych o sut mae’r buddsoddiad trawsnewidiol hwn mewn cyrtiau tennis mewn parciau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Sefydliad Tennis yr LTA yn agor y drws i chwarae tennis yng Nghymru a ledled Prydain.

Mae cyrtiau presennol fel hyn mewn parciau wedi cael eu nodi ar gyfer eu hadnewyddu nid yn unig am y byddant yn cael yr effaith fwyaf ar gyfranogiad, ond oherwydd y byddant yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau mewn cyfranogiad drwy helpu i ymgysylltu â chymunedau a dangynrychiolir yn draddodiadol mewn tennis.

Gyda’r cyrtiau wedi ailagor yn llwyddiannus i’r cyhoedd, rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at fanteisio ar y momentwm hwn drwy weithio gyda Chyngor Blaenau Gwent, Tennis Cymru a Chris Hill i gyflwyno Tennis am Ddim mewn Parciau dros y misoedd nesaf.

Fel rhan o’i hymrwymiad i agor y drws i lawer mwy o bobl, mae’r LTA yn cefnogi awdurdodau lleol a darparwyr i sicrhau bod amrywiaeth o weithgareddau ar waith ar draws cyrtiau mewn parciau, gan gynnwys sesiynau tennis wythnosol am ddim lle darperir offer. Bydd modd archebu lle yn yr holl gyrtiau ar system archebu ar-lein LTA gyda systemau mynediad gât digidol wedi eu gosod ar draws safleoedd, fel bod canfod, archebu a mynd i’r cwrt mor hawdd a diogel â phosibl i chwaraewyr tennis ledled y wlad. Mae’r rhaglen wedi ei chynllunio i agor y drws i lawer mwy o bobl, gyda’r LTA yn anelu at ddenu 500,000 yn fwy o chwaraewyr i barciau bob blwyddyn.

Mae’n dilyn cynnydd mewn cyfranogiad ar lawr gwlad ledled Prydain, gan gynnwys yng Nghymru. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Tennis Cymru, y corff llywodraethu cenedlaethol ar gyfer tennis yng Nghymru, fod 176,000 o oedolion wedi estyn am raced ac wedi chwarae tennis yn y flwyddyn hyd at fis Mai 2023 sy’n 46,000 o gynnydd o’i gymharu â 2019.

Mae mwy o blant hefyd yn chwarae tennis, gyda 154,000 yn chwarae bob blwyddyn, ac mae Arolwg Chwaraeon mewn Ysgolion Chwaraeon Cymru wedi tynnu sylw at y ffaith bod tua 50,000 o blant yn awyddus i roi cynnig ar chwarae tennis.

Mae gwell cyfleusterau cyhoeddus yn helpu i fynd i’r afael â’r galw hwn, ac mae mwy o bobl ifanc hefyd yn cael cyfle i estyn am raced mewn ysgolion drwy Ysgolion Ieuenctid yr LTA. Drwy’r rhaglen hon, mae Tennis Cymru a’r LTA yn cael gwared ar rwystrau rhag cyfranogi drwy hyfforddi dros 650 o athrawon yng Nghymru i gyflwyno’r rhaglen, gan ddarparu taleb gwerth £250 ar gyfer pob ysgol sydd wedi cwblhau hyn i’w defnyddio am 10 awr o hyfforddiant neu offer Achrededig gan yr LTA.

Cyhoeddwyd ar 18 July 2023