Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ymweld â thîm achub Glan-y-fferi i ddathlu hwb ariannol o £40,000
Bydd dros £70,000 yn cael ei ddarparu i ariannu offer hanfodol i dîm Bad Achub Glan-y-fferi a Chymdeithas Achub ar y Mynydd Gogledd Cymru

-
Bydd timau chwilio ac achub bywyd yng Nghymru yn derbyn cyfran o £1 miliwn i roi hwb i’w hadnoddau
-
Bydd dros £70,000 yn cael ei ddarparu i ariannu offer hanfodol i dîm Bad Achub Glan-y-fferi a Chymdeithas Achub ar y Mynydd Gogledd Cymru
-
Mae’r Gronfa wedi cyfrannu bron i £6 miliwn hyd yn hyn i achub bywydau ar ddyfroedd y DU
Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart yn ymweld â thîm Bad Achub Glan-y-fferi St John Cymru yng Nghaerfyrddin heddiw (Dydd Iau 20 Chwefror) yn dilyn y cyhoeddiad o hwb ariannol o £1 miliwn gan Lywodraeth y DU i ariannu i ddau dîm chwilio ac achub yng Nghymru.
Bydd yr arian, a gadarnhawyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth Grant Shapps, y fuddiol i 50 o elusennau ledled y DU i ddarparu offer chwilio ac achub hanfodol.
Yn ystod ei ymweliad, bydd Mr Hart yn clywed sut bydd y tîm chwilio ac achub yng Nglan-y-fferi yn defnyddio gwerth £40,000 o arian Llywodraeth y DU i brynu dyfeisiadau cyfathrebu newydd ac offer amddiffynnol. Bydd y gwirfoddolwr, Simon Lamble yn esbonio sut bydd yr offer newydd yn eu helpu i chwilio am bobl sydd ar goll yn y dŵr ac yn achub y rhai sy’n sownd.
Mae Cymdeithas Achub ar y Mynydd Gogledd Cymru, sydd hefyd wedi derbyn dros £31,000 heddiw, wedi bod yn defnyddio offer a ariannwyd yn rhannol gan grantiau bad achub a glannau blaenorol y DU i gynnal chwiliadau hanfodol ar yr Afon Dyfrdwy yn sgil storm Ciara a Dennis.
Bydd y rownd newydd o gyllid yn cael ei ddefnyddio i adnewyddu dillad amddiffynnol a phrynu offer achub megis rafftiau dŵr a slediau er mwyn gwella gallu’r timau mewn achosion o lifogydd ac achosion dŵr.
Meddai Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth Grant Shapps:
Mae ein timau bad achub yn gwneud gwaith hanfodol i gadw ein hafonydd, llynnoedd ac ardaloedd arfordirol yn ddiogel.
Mae’r elusennau ysbrydoledig yn achub bywydau bob dydd a bydd y gyllideb ychwanegol yn sicrhau bydd ganddynt y cychod, yr offer a’r adnoddau i ddarparu’r gwasanaethau yma drwy gydol y flwyddyn.
Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:
Mae sefydliadau gwirfoddol ac elusennol ar draws Cymru yn gweithio’n anhunanol 24/7 i ddarparu cymorth achub bywyd i’r cyhoedd.
Mae’r sefydliadau hyn yn hanfodol i amddiffyn ein cymunedau ac felly rwyf yn falch i weld gwasanaethau Cymru yn manteisio ar y rownd ddiweddaraf o gyllideb gan Lywodraeth y DU.
Bydd yr arian yn sicrhau bydd gan dîm Bad Achub Glan-y-fferi a Chymdeithas Achub ar y Mynydd Gogledd Cymru yr offer sydd eu hangen i barhau i ddarparu’r gwaith hanfodol.
Meddai Prif Weithredwr St John Cymru Helen Smith:
Rydym yn falch iawn i gael cefnogaeth Llywodraeth y DU i helpu ein timau o wirfoddolwyr yng Ngan-y-fferi i barhau a’u gwaith achub bywyd.
Mae gweithio ar y dŵr yn anodd iawn ac mae dod i gysylltiad â’r elfennau ynghyd â natur y gwaith yn golygu nad yw’r offer yn para’n hir.
Mae sicrhau bod ein gwirfoddolwyr wedi eu harfogi’n ddigonol ar gyfer eu gwaith yn hanfodol o bwysig a bydd y rownd ddiweddaraf o gyllid o help mawr i ni gefnogi ein gwirfoddolwyr er mwyn iddynt allu bod yno i’w cymunedau lleol a’r rhai sy’n mynd mewn i drafferthion.
Meddai Simon Lamble o St John Cymru:
Mae ein tîm o wirfoddolwyr yn gweithio’n eithriadol o galed i godi arian i’n helpu i barhau i ddarparu’r gwasanaeth hanfodol i’n cymuned. Mae’r grant yma’n hwb enfawr a fydd yn ein galluogi ni i achub mwy o fywydau ar draws ardaloedd yr afon Tywi, Taf a’r Gwendraeth a’n helpu ni i barhau i fod yno pan fydd angen.
Meddai Gerald Davison o’r NWMRA:
Dros nifer o benwythnosau yn olynol, roedd aelodau timau NWMRA yn gwneud defnydd da o’r offer Achub Dŵr a ddarparwyd yn rhannol gan Gyllideb Grant Cychod ac Achub wrth ymgymryd â gwaith achub dŵr ac achosion chwilio ac achub yn ystod stormydd Ciara a Dennis yng Ngogledd Cymru. Cawsom ein lleoli ar waith achub mewn llifogydd yn Llanfair Talhaearn ac yn Llanelwy a buom yn chwilio am berson oedd ar goll yn y dŵr yn agos at Langollen.
Mae darparu’r offer cywir yn y niferoedd a’r meintiau cywir yn caniatáu i’n haelodau tîm sydd wedi eu hyfforddi’n iawn i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol pan fydd achosion o lifogydd ac achosion dŵr eraill yn codi. “Mae ein gwirfoddolwyr yn rhan annatod o’r timoedd ymateb amlasiantaethol i ddigwyddiadau fel cyfranogwyr craidd o Fforwm Cydnerth Lleol Gogledd Cymru.
Ers ei lansio yn 2014, mae’r Gronfa Grant Cychod Achub wedi darparu £5.7 miliwn i 104 o elusennau ar draws y DU.
Gweler rhestr lawn o’r elusennau llwyddiannus ar wefan yr Adran Drafnidiaeth.