Stori newyddion

Yr Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ymweld â hwb byd-eang F-35 yng Ngogledd Cymru ar adeg Cyhoeddi Strategaeth Ddiwydiannol y Deyrnas Unedig

I nodi lansio strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, wedi bod o amgylch safle’r ganolfan atgyweirio byd-eang F-35 newydd yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.

Secretary of State for Wales, Alun Cairns at Sealand

Secretary of State for Wales, Alun Cairns at Sealand / Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns yn Sealand

Wrth i Lywodraeth y D.U. lansio ei strategaeth ddiwydiannol newydd, pwysleisiodd Alun Cairns fod y diwydiant Amddiffyn yn gwneud cyfraniad parhaus i economi Cymru, yn ogystal â ledled y D.U.

Ym mis Tachwedd, dewiswyd y Deyrnas Unedig yn hwb atgyweirio byd-eang ar gyfer cydrannau afionig ac awyrennol, gan sicrhau gwerth miliynau o fuddsoddiad, gyda’r potensial o gael mwy na £2bn o refeniw cymorth i F-35 yn y dyfodol dros oes y rhaglen. Cafodd Mr Cairns weld y darpar gyfleusterau ar gyfer yr F-35 a chyfarfod ffigyrau uchel o DECA, prentisiaid, busnesau bach lleol, a’r partneriaid yn y Fenter ar y Cyd, sef BAE Systems a Northrupp Grumman.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’r penderfyniad i leoli hwb atgyweirio byd-eang yr F-35 yng Ngogledd Cymru yn brawf o’r enw da sydd gan Gymru yn rhyngwladol am dechnoleg a gweithgynhyrchu. Mae DECA Sealand a chwmnïau fel Airbus yn dangos bod y rhan hon o Gymru yn arwain ym maes technoleg awyrennol. Mae’r ffaith mai Cymru sy’n cynhyrchu’r genhedlaeth nesaf o gerbydau ymladd y fyddin, a hynny ym Merthyr, yn dangos ein bod yn cynnig gweithlu hynod fedrus a lleoliadau sy’n gweithio i fusnesau.

Mae’r strategaeth ddiwydiannol sy’n cael ei lansio heddiw yn gynllun ar gyfer pawb; mae i bob sector a busnes yng Nghymru ei rhan ynddi. Drwy gyd-dynnu, gallwn adeiladu economi Gymreig sy’n gweithio i bawb, gyda swyddi sy’n talu’n dda i’n pobl ifanc.

Dywedodd Syr Michael Fallon:

Mae’r penderfyniad i wneud Prydain yn hwb ar gyfer holl F35au Ewrop yn bleidlais o hyder yn ein diwydiant amddiffyn uwch-dechnolegol a dyfeisgar, sy’n cynhyrchu biliynau o bunnau i’r D.U. a chreu miloedd o swyddi.

Ond gallwn wneud mwy i adeiladu ar ein cryfderau ac ymestyn rhagoriaeth i’r dyfodol, ac mae Strategaeth Ddiwydiannol y llywodraeth hon yn weledigaeth ar gyfer Prydain sy’n fodern, llwyddiannus ac uchelgeisiol â phob rhan o’r wlad ar dân i gyflawni.

Gyda’r cynnydd o £4.7bn i ariannu ymchwil a datblygu a ddaw drwy’r Strategaeth Ddiwydiannol a Menter Arloesi gwerth £800m y Weinyddiaeth Amddiffyn, byddwn yn ceisio gwneud y D.U. yn un o’r llefydd mwyaf cystadleuol yn y byd i arloesi ac adeiladu busnes: gan hybu twf, datblygu sgiliau a darparu diogelwch.

Bydd Strategaeth Ddiwydiannol y llywodraeth yn ceisio gwneud dewisiadau ffres ynglŷn â’r modd y mae’r Deyrnas Unedig yn siapio ei heconomi ac yn rhoi cyfle i ddarparu Strategaeth Ddiwydiannol fentrus ar gyfer y tymor hir i adeiladu ar gryfderau a pharatoi ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

Mae’r llywodraeth wedi dechrau ar ddeialog gyda byd diwydiant i ddatblygu’r strategaeth hon, a sicrhau bod y D.U. yn parhau’n un o’r llefydd gorau yn y byd i arloesi a gwneud busnes. Ar ôl cyfnod o ymgynghori, mae’r llywodraeth yn bwriadu cyhoeddi papur gwyn ar y Strategaeth Ddiwydiannol yn 2017 i nodi’r cynllun ar gyfer ei chyflawni’n llwyr ac yn y tymor hir.

Cyhoeddwyd ar 25 January 2017