Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru: Llywodraeth y DU yn buddsoddi yn seilwaith Abertawe ar gyfer y tymor hir

Alun Cairns yn cyhoeddi buddsoddiad newydd gwerth £800,000 yn y ganolfan SPECIFIC ym Mhrifysgol Abertawe

Swansea

Swansea

  • Alun Cairns yn galw, mewn araith yn y ddinas, am gynnydd cyflym wrth gyflawni Bargen Ddinesig Rhanbarth Bae Abertawe
  • Llywodraeth y DU yn cyhoeddi buddsoddiad newydd gwerth £800,000 yn y ganolfan SPECIFIC ym Mhrifysgol Abertawe ar gyfer y swyddfa ‘ynni-bositif’ gyntaf yn y DU
  • Ysgrifennydd Cymru yn ymweld ag oriel yng nghanol y ddinas i ganfod gwybodaeth ar gyfer y ras am deitl Dinas Diwylliant y DU 2021

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns yn galw ar bob partner i “dynnu ynghyd a gwneud gweledigaeth Bargen Ddinesig Rhanbarth Bae Abertaw yn realiti” pan fydd yn siarad â chynadleddwyr yn nigwyddiad Fforwm Polisi Cymru yn Abertawe heddiw (26 Hydref).

Mae araith Mr Cairns yn rhan o ymweliad ehangach ag Abertawe, lle bydd hefyd yn cyhoeddi bod buddsoddiad gwerth £800,000, sy’n cael ei gefnogi gan y Llywodraeth, yn cael ei roi i Ganolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae’r cyllid yn cael ei roi gan Innovate UK, a bydd yn cael ei ddefnyddio i godi’r swyddfa ‘ynni-bositif’ gyntaf yn y DU, sy’n gallu cynhyrchu mwy o ynni nag y mae’n ei ddefnyddio.

Ym mis Mawrth eleni, safodd yr Ysgrifennydd Gwladol wrth ochr y Prif Weinidog a phartneriaid lleol i lofnodi Bargen Ddinesig Rhanbarth Bae Abertawe.

Mae disgwyl i’r fargen arwain at fwy na 9,000 o swyddi a £1.3 biliwn o fuddsoddiad drwy 11 o brosiectau targedol, i roi Cymru ar flaen y gad mewn gwyddoniaeth ac arloesi ar lefel fyd-eang.

Saith mis ar ôl llofnodi’r cytundeb, bydd Mr Cairns yn mynd ar y llwyfan yng Ngwesty’r Marriott ac yn annog partneriaid i fynd ati nawr i “symud ymlaen at gyflawni” er mwyn i bobl Abertawe allu “gweld y manteision gwirioneddol a’r buddsoddiad sy’n cael ei wneud.”

Yn ystod yr araith, bydd yn amlinellu sut bydd Abertawe yn elwa ar y modd y mae Llywodraeth y DU yn blaenoriaethu ei fuddsoddiad mewn seilwaith. Bydd dyfodiad trenau deufoddol arloesol Intercity Express yn ddiweddar o fudd i deithwyr ar draws de Cymru, ac mae’r Llywodraeth hefyd yn bwriadu gwneud gwelliannau i’r orsaf yn Abertawe ac edrych ar ffyrdd o ddarparu gwasanaethau uniongyrchol o Lundain i Ddoc Penfro.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Dyma adeg cyffrous i ranbarth Abertawe – nid yn unig oherwydd natur ddeinamig y prosiectau a fydd yn cael eu cyflawni drwy’r Fargen Ddinesig, ond hefyd oherwydd y buddsoddiadau eraill sy’n cael eu gwneud yn y seilwaith ac a fydd yn para blynyddoedd lawer.

Mae gan Lywodraeth y DU uchelgais ar gyfer Abertawe. Dyna pam ein bod yn rhoi’r pŵer i’r ardal wneud y penderfyniadau i gefnogi twf economaidd y ddinas, i roi hwb i gyflogaeth ac i ddenu buddsoddiad.

Mae angen i ni fanteisio ar y cyfleoedd sy’n dod i ran Abertawe. Mae potensial enfawr i’r rhanbarth, ond rhaid i bob lefel o lywodraeth, y sectorau preifat a chyhoeddus weithio gyda’i gilydd i’w hybu ac i sicrhau bod y rhanbarth yn bwerdy arloesi fel y mae’n haeddu bod.

Bydd yr adeilad yn cael ei greu drwy ddefnyddio technegau cynhyrchu arloesol oddi ar y safle a bydd yn cynnwys technolegau arloesol i gynaeafu, storio a rhyddhau ynni. Bydd yr adeilad wedi cael ei gwblhau erbyn Ebrill 2018, a bydd yn cael ei ddefnyddio ar unwaith gan hyd at 40 o aelodau o staff.

Mae SPECIFIC yn cael ei arwain gan Brifysgol Abertawe ac mae’n gweithio gyda mwy na 50 o bartneriaid o’r byd academaidd, diwydiant a llywodraeth er mwyn gwireddu ei gweledigaeth i wneud adeiladau’n orsafoedd pŵer. Bydd y Swyddfa Actif yn cael ei chysylltu â’r Ystafell Ddosbarth Actif, sef lle sy’n darparu gofod addysgu a labordy ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Abertawe, yn ogystal â chyfleuster datblygu ar raddfa adeilad ar gyfer SPECIFIC a’i bartneriaid mewn diwydiant.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i arwain y byd o ran technoleg ynni glân, ac mae’r buddsoddiad heddiw yn dangos ein bod ni’n barod i gefnogi arloesedd yn y maes hollbwysig yma.

Mae ymchwil ac arloesi wedi profi eu bod yn helpu i hybu ein heconomi. Mae Prifysgol Abertawe yn gwneud cyfraniad enfawr yn y maes hwn, ac yn cymryd camau breision ymlaen mewn gwyddoniaeth ac ymchwil, gan ddenu canmoliaeth ledled y byd. Rwy’n edrych ymlaen at weld y buddsoddiad hwn yn cael ei wireddu, a gobeithio y bydd yn rhoi hwb arall i’r ymchwil arloesol sy’n cael ei wneud gan y Brifysgol.

Dywedodd Ruth McKernan, Prif Weithredwr Innovate UK:

Mae codi’r adeilad cyntaf yn y DU sy’n creu mwy o bŵer nag y mae’n ei ddefnyddio yn gam pwysig, ac rwy’n falch mai arian gan Innovate UK sy’n sicrhau bod hyn yn digwydd. Mae’r Swyddfa Actif yn arwydd o’r dyfodol ym maes dylunio adeiladau ac mae’n brawf o’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud ym Mhrifysgol Abertawe gan dîm SPECIFIC. Bydd y prif enghraifft o’r cysyniad ‘adeiladau fel gorsafoedd pŵer’ yn denu ymwelwyr o bob rhan o’r byd a bydd yn rhoi cip ar y dyfodol.

Dywedodd yr Athro Richard Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe:

Mae’n gyffrous gweld cysyniad arloesol SPECIFIC o ‘adeiladau fel gorsafoedd pŵer’ yn cael ei wireddu. Mae’r Swyddfa Actif ar Gampws godidog y Bae wedi ymddangos yn fuan ar ôl yr Ystafell Ddosbarth Actif arloesol. Yn ogystal ag arddangos beth sydd nawr yn bosibl oddi-ar-y-grid, bydd yr adeilad newydd yn rhannu ynni gyda’r Ystafell Ddosbarth Actif, a bydd yn dangos sut gall adeiladau weithio gyda’i gilydd i greu cymunedau sy’n wydn o ran ynni.

Tra bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn y ddinas, bydd yn manteisio ar y cyfle i ddysgu mwy am yr achos sy’n cael ei gyflwyno gan Abertawe yn y ras am deitl Dinas Diwylliant y DU yn 2021.

Bydd yn ymweld ag Oriel Gelf Glyn Vivian lle bydd y curadur Jenni Spencer-Davies yn mynd ag ef ar daith o amgylch yr oriel ac yn rhoi trosolwg o’r gwaith datblygu gwerth miliynau o bunnau ar y lle.

Sefydlwyd yr oriel restredig Gradd II yn 1911, ac mae hi wedi elwa ar hwb ariannol gwerth £576,500 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri i’w helpu i’w throi’n oriel gelf arbennig o bwys rhyngwladol, gyda gofodau newydd ar gyfer arddangosfeydd teithiol, arddangosiadau a darlithoedd yn ogystal â mynedfa gwbl hygyrch, caffi a siop.

NODIADAU I OLYGYDDION

  • Innovate UK yw asiantaeth arloesi y DU. Mae Innovate yn hybu cynhyrchiant a thwf drwy gefnogi busnesau i wireddu potensial technolegau newydd, datblygu syniadau a’u gwneud nhw’n llwyddiant masnachol.
  • Mae Dinas-Ranbarth Bae Abertawe yn cynnwys ardaloedd awdurdodau lleol Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Sir Benfro a Chastell-nedd Port Talbot, ynghyd â Byrddau Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Hywel Dda, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, a phartneriaid o’r sector preifat.
  • Mae Canolfannau Arloesi a Gwybodaeth wedi cael eu hariannu ar y cyd gan yr EPSRC (Cyngor Ymchwil Ffisegol Peirianneg) ac Innovate UK fel rhan allweddol o’r modd y mae’r DU yn masnacholi technolegau datblygol drwy greu mas critigol cyfnod cynnar mewn maes o dechnoleg tarfol. Maen nhw’n gallu gwneud hyn drwy eu gallu ymchwil o ansawdd ryngwladol a mynediad at dechnolegau ategol sydd eu hangen er mwyn masnacholi ymchwil.
  • Sefydlwyd IKC SPECIFIC yn 2011 gydag ymrwymiadau grant 5 mlynedd gan EPSRC, Innovate UK a Llywodraeth Cymru, gydag ymrwymiad cam II yn Ebrill 2016. Cafwyd rhagor o fuddsoddiadau yn y ddau gam gan Brifysgol Abertawe, partneriaid diwydiannol strategol (BASF, NSG Pilkington a Tata Steel) gyda chymorth ychwanegol gan Brifysgol Caerdydd. Mae IKC Specific wedi cynhyrchu mwy na £40 miliwn o gyllid ar gyfer prosiectau ymchwil a datblygu cyflenwol, megis Sêr Solar a’r Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’r ganolfan wedi datblygu cysylltiadau ymchwil â nifer o brifysgolion eraill sy’n gweithio mewn meysydd ymchwil ategol.
Cyhoeddwyd ar 26 October 2017