Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn mynd o Amgylch Maes Rhyfeddol yr Eisteddfod

Ymunodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a bron i 15,000 o ymwelwyr eraill ar y Maes ar gyfer diwrnod cyntaf yr Eisteddfod Genedlaethol…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Cheryl Gillan yn yr EisteddfodYmunodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a bron i 15,000 o ymwelwyr eraill ar y Maes ar gyfer diwrnod cyntaf yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, ar safle’r hen waith dur yng Nglynebwy.

Aeth Mrs Gillan am dro o amgylch y Maes, gan ymweld a’r Lle Celf tanddaearol gydag Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod.

Cafodd gyfle hefyd i gyfarfod a Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn ogystal ag Arwel Ellis Owen, sef Prif Weithredwr newydd S4C dros dro. 

Roedd Mrs Gillan yn dychwelyd i’r Eisteddfod Genedlaethol yng Nglynebwy am yr eildro, ar ol bod yn y cyngerdd agoriadol gydag Only Men Aloud! a’r cor ieuenctid Only Boys Aloud! y noson gynt.

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yng Nglynebwy am y tro cyntaf er 1958, ar safle’r hen waith dur. Disgwylir i dros 160,000 o bobl ymweld a’r ŵyl dros yr wythnos.

Meddai Mrs Gillan: “Yr hyn sy’n wych yw bod yr Eisteddfod yn cael ei chynnal ar safle sy’n cael ei adfywio, ac mae hynny’n dangos sut mae’r Cymoedd wedi codi fel ffenics o’r lludw. 

“Rwy’n gobeithio y bydd yr ymwelwyr yn dod yma i galon y cymoedd i gael blas go iawn ar fywyd a diwylliant Cymru.

“Mae’n bwysig bod yr Eisteddfod yn parhau i symud o le i le ac ymweld a gwahanol rannau o’r wlad. Yn draddodiadol, nid yw’r ardal hon yn cael ei hystyried yn ardal lle mae’r iaith Gymraeg yn cael ei siarad, ond mae dod i ardal fel hon yn dangos i chi bod yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru yn perthyn i bob cornel o Gymru, sy’n neges gadarn iawn. Gobeithio hefyd y bydd yr Eisteddfod yn gadael ei hol ar yr ardal.

Dywedodd Mrs Gillan hefyd yr hoffai weld proffil yr Eisteddfod yn codi mwy byth y tu allan i Gymru erbyn y flwyddyn nesaf pan fydd yr Eisteddfod yn Wrecsam ac yn dathlu 150 mlynedd.

Ychwanegodd: “Rwyf wedi bod yn siarad a’r Prif Weithredwr ynglŷn a sut i ymestyn proffil yr Eisteddfod y tu hwnt i Gymru. Rwy’n credu y dylai fod yn atyniad i bobl o bob cwr o’r DU ac o dramor.  Mae’r Eisteddfod wir yn cynnig popeth - celf, cerddoriaeth, barddoniaeth, iaith, a hyd yn oed bwyd.”

Wrth iddi fynd o amgylch y Maes, ymwelodd Mrs Gillan a’r stondinau canlynol: Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru, RNIB, RNID a Sense Cymru, Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr yr Adran Gwaith a Phensiynau, y Ganolfan Byd Gwaith, JobMatch, Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant, Shelter Cymru a BBC Cymru Wales.

Cyhoeddwyd ar 31 July 2010