Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru i goffau canmlwyddiant Brwydr Passchendaele

Alun Cairns: Braint yw cael talu teyrnged i'r rhai a gollodd eu bywydau ar faes gwaedlyd y frwydr

Passchendaele
Passchendaele

Heddiw (31 Gorffennaf) bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, yn teithio i Wlad Belg i ymuno â miloedd o ddisgynyddion i filwyr y Rhyfel Byd Cyntaf mewn gwasanaethau i gofio’r rhai a frwydrodd ac a fu farw ym Mrwydr Passchendaele.

Cafodd brwydr Passchendaele ei hymladd ger Ypres rhwng 31 Gorffennaf a 10 Tachwedd 1917, ar feysydd brwydro a drodd yn hylif mwdlyd. Mae’n cael ei chofio fel un o frwydrau mwyaf gwaedlyd y Rhyfel Byd Cyntaf lle collodd 2,992 o filwyr o’r 38ain adran (Cymreig) eu bywydau.

Bydd y bardd o Gymru, Hedd Wyn, a laddwyd ar ddiwrnod cyntaf Passchendaele, yn cael ei anrhydeddu yn y gwasanaethau hefyd.

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn anrhydeddu’r cof am y milwyr o Gymru a fu farw yn nigwyddiadau canmlwyddiant Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru:

Mae digwyddiadau canmlwyddiant Passchendaele yn gyfle unigryw i ddod â ni at ein gilydd fel cenedl - i anrhydeddu bywyd a dewrder pob un a wasanaethodd yn y rhyfel - yn y fyddin a gartref.

Mae’n fraint cael bod yma i dalu fy nheyrnged bersonol fy hun i’r milwyr o Gymru a chwaraeodd ran allweddol ar un o feysydd brwydro mwyaf gwaedlyd y rhyfel.

Wrth adlewyrchu ar erchyllterau rhyfel, cofio am aelodau o’r teulu a wasanaethodd, neu ymweld â chofeb, mae canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yn gyfle i ni ddeall ein gorffennol yn well - a sut mae’n parhau i ddylanwadu arnom ni heddiw.

Heb unrhyw filwyr o’r Rhyfel Byd Cyntaf yn fyw erbyn hyn, eu plant, eu hwyrion a’u hwyresau a’u gor-wyrion a’u gor-wyresau fydd wrth galon digwyddiadau canmlwyddiant swyddogol Llywodraeth y DU a gynhelir yng nghanol y 12,000 o gerrig beddau a’r Wal Goffa i’r Colledig ym Mynwent Tyne Cot.

Wedyn bydd Mr Cairns yn teithio i ddigwyddiadau coffa Cymru yng Nghofeb Genedlaethol Cymru yn Fflandrys lle bydd yn gosod torch wrth droed y ddraig goch efydd ar ran Llywodraeth y DU. Yn ddiweddarach bydd yn ymuno â Phrif Weinidog Cymru Carwyn Jones ar daith i Fynwent Artillery Wood ble rhoddwyd Hedd Wyn i orffwys.

Cyn ei ymweliad â Gwlad Belg, manteisiodd Ysgrifennydd Cymru ar y cyfle i gyfarfod cyn-filwyr cangen Caerdydd o’r Lleng Prydeinig Brenhinol i bwysleisio parch a diolchgarwch pobl Cymru am yr aberth a wnaed ganddynt.

Ychwanegodd Mr Cairns:

Mae’n fraint bod â hanes milwrol maith a balch yng Nghymru ac mae’n anrhydedd enfawr heddiw cael cyfarfod cyn-filwyr o Gymru sydd wedi byw drwy lawer o wrthdaro dros y blynyddoedd.

Mae gwaith y Lleng Prydeinig i wella bywydau cymuned y lluoedd arfog yn amhrisiadwy. Mae’n chwarae rôl mor allweddol, o ddyfarnu grantiau i gynnig cefnogaeth emosiynol a brawdgarwch a sicrhau bod y genedl yn dod at ei gilydd i gofio. Mae’r cyn-filwyr yma’n ysbrydoliaeth fawr. Maen nhw wedi rhoi cymaint ac, am hynny, mae ein dyled yn fawr iddyn nhw.

Nodiadiau i olygyddion

  • Mae Canmlwyddiant Passchendaele, Trydedd Frwydr Ypres, yn rhan allweddol o raglen pedair blynedd Llywodraeth y DU i gofio’r Rhyfel Byd Cyntaf.
  • Mae Cofeb y Cymry wedi’i lleoli yn Boezingestraat 158, 8920 Langemark-Poelkapelle, Gwlad Belg.
  • Yn ystod yr ymladd yn Nhrydedd Frwydr Ypres, enillodd tri o Gymry Groes Victoria, Sarjant Ivor Rees 11eg Bataliwn Cyffinwyr De Cymru, Corporal James Llewellyn Davies 13eg Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a Sarjant Robert Bye Catrawd 1af y Gwarchodlu Cymreig.
Published 31 Gorffennaf 2017