Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru i ddathlu 35 mlynedd ers sefydlu clwb busnes rhwng Japan a Chymru

Alun Cairns i siarad yn nigwyddiad Clwb Hiraeth yn Tokyo

Bydd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn tynnu sylw at y cysylltiadau diwylliannol cryf rhwng Cymru a Japan mewn cinio a fydd yn dathlu carreg filltir bwysig i fforwm busnes wedi’i leoli yn Tokyo.

Sefydlwyd Clwb Hiraeth yn 1982 gan uwch swyddogion gweithredol corfforaethau yn Japan a fu’n gweithio ac yn byw yng Nghymru ac a ddychwelodd i Japan yn y pen draw. Y nod oedd hyrwyddo cysylltiadau busnes rhwng y ddwy wlad.

35 mlynedd yn ddiweddarach ac mae’r clwb wedi helpu i gynnal a chryfhau nid yn unig y cysylltiadau busnes ond y cysylltiadau cymdeithasol rhwng y rhai ddaeth yn ffrindiau agos yng Nghymru.

Mae Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwlad Cymru yn Japan yn ymweld â chwmnïau rhyngwladol arweiniol i drafod y potensial mawr ar gyfer rhagor o fewnfuddsoddiad yn y Deyrnas Unedig.

Bydd yn dathlu 35 mlynedd ers sefydlu Clwb Hiraeth mewn cinio yn Tokyo lle bydd yn annerch yr aelodau ac yn ategu pwysigrwydd cynnal y cysylltiadau busnes rhwng y gwledydd i helpu i sicrhau ffyniant y ddwy wlad yn y dyfodol.

Gan siarad cyn y digwyddiad, dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae cwmnïau o Japan wedi rhoi etifeddiaeth barhaol i Gymru, nid yn unig o safbwynt diwydiant, ond o ran diwylliant hefyd.

Dydy Japan erioed wedi tanamcangyfrif Cymru. Mae’n un o’r llefydd gorau i gynnal busnes a gwn fod Clwb Hiraeth wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau bod arweinyddion busnes eraill, prifysgolion a chymunedau ledled y wlad hon yn deall cymaint sydd gan Gymru i’w gynnig.

Rydw i’n llongyfarch y clwb am ei 35 mlynedd o wasanaeth pwysig i Japan a Chymru. Pob lwc iddo yn y dyfodol wrth i ni barhau i gryfhau’r cysylltiadau rhyngom”.

Cadeirydd cyntaf Clwb Hiraeth oedd Mr Yamaguchi o Takiron - y cwmni cyntaf o Japan i fuddsoddi yng Nghymru.

Yn ystod ei hanes o 35 mlynedd, mae aelodau o’r clwb wedi bod yn llysgenhadon answyddogol dros Gymru. Byddant yn cyfarfod yn rheolaidd, yn cynnal nifer o ddigwyddiadau cymdeithasol, yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi ac yn cymeradwyo Cymru i ddarpar fuddsoddwyr a phobl fusnes eraill.

Mae uchelgais busnes Japan yn adleisio uchelgais ei sêr chwaraeon ar y cae rygbi hefyd. Fel Cymru 20 mlynedd ynghynt, mae’r wlad yn paratoi i gynnal Cwpan Rygbi’r Byd yn 2019. Ac er bod y ddwy wlad yn aml yn wynebu’i gilydd fel gelynion ar y cae chwarae, bydd Alun Cairns yn tynnu sylw at berthynas y ddwy wlad â’r gamp fel catalydd allweddol arall ar gyfer busnes sydd o fudd i’r ddwy wlad am lawer o flynyddoedd i ddod.

Ychwanegodd Mr Cairns:

Mae’r cysylltiadau cryf o ran diwylliant a chwaraeon sydd rhwng ein dwy wlad wych ni wedi bod yn gefn i bartneriaeth masnachu a buddsoddi lwyddiannus a buddiol.

Mae rygbi’n gallu ein diffinio ni fel cenedl ac rydyn ni’n gwybod bod llwyddiant tîm rygbi Cymru yn gallu cael effaith economaidd fesuradwy. Edrychwn ymlaen at weld y byd yn dod ynghyd yn Japan yn 2019 ac at weld ein partneriaethau ym maes chwaraeon, masnach a diwylliant yn bwrw gwreiddiau dyfnach am flynyddoedd i ddod”.

Cyhoeddwyd ar 2 August 2017