Datganiad i'r wasg

Yr Ysgrifennydd Gwladol yn Diolch I Menna Richards am ei chyfraniad enfawr I ddarlledu yng Nghymru’

Yn dilyn y cyhoeddiad fod Menna Richards, Cyfarwyddwr BBC Cymru I sefyll i lawr y flwyddyn nesaf, talodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Yn dilyn y cyhoeddiad fod Menna Richards, Cyfarwyddwr BBC Cymru I sefyll i lawr y flwyddyn nesaf, talodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru deyrnged iddi.

Dywedodd Mrs Gillan:  “Yn ystod degawd yn arwain  BBC Cymru,  bu Menna ar reng flaen darlledu yng Nghymru ac mae wedi gwneud cyfraniad o bwys   i’r diwydiannau creadigol llwyddiannus sy’n bwysig i economi Cymru.

“Dan arweinyddiaeth gref  Menna, mae Cymru wedi dod yn ganolfan greadigol bwysig i’r BBC.   Mae llwyddiant ffantastig  rhaglenni  fel Gavin and Stacey, Dr Who, Torchwood a  Coalhouse, rhaglenni a aeth drwy’r rhwydwaith, wedi rhoi enw da i BBC Cymru am ragoriaeth, ac wedi ei gosod ar flaen y gad i elwa o drosglwyddo mwy o raglenni drama a rhaglenni ffeithiol  i’w cynhyrchu y tu allan i Lundain.

“Bydd  pentref drama newydd y BBC, sy’n dechrau ar gynhyrchu ym Mae Caerdydd yr haf nesaf, yn etifedd parhaol i weledigaeth Menna ac i’w harweinyddiaeth o BBC Cymru.   Rwy’n diolch iddi am ei chyfraniad enfawr i ddarlledu yng Nghymru ac yn dymuno’r gorau iddi yn y dyfodol. “

Cyhoeddwyd ar 10 November 2010