Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru: Busnesau Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn dod â thwf economaidd i Gymru

Fel rhan o’i ymroddiad parhaus i gefnogi twf busnes yng Nghymru, bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, heddiw’n cychwyn ar ei ymweliad deuddydd ag Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot (25 a 26 Ebrill).

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
Secretary of State with Vice Chancellor, Professor Richard B. Davies

Secretary of State with Vice Chancellor, Professor Richard B. Davies

O dimau pêl-droed Uwch Gynghrair Lloegr, i ganolfannau rhagoriaeth ym maes ymchwil a datblygu, bydd Mr Jones yn cwrdd ag uwch reolwyr ac aelodau’r gweithlu Cymreig sy’n cymryd camau mawr i helpu i yrru’r economi ymlaen.

Dyma oedd gan Mr Jones i’w ddweud cyn yr ymweliadau:

Mae creu twf hirdymor a swyddi hirdymor yn flaenoriaeth allweddol i ni. Mae Cymru mewn cystadleuaeth fyd-eang am lwyddiant economaidd ac mae’n hanfodol inni wneud popeth a allwn i helpu sicrhau’r llwyddiant hwnnw. Rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â’r bobl allweddol yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot sy’n ymgorffori’r weledigaeth honno, ac sy’n dangos yn eglur bod cyfle i lwyddo yn yr oes economaidd ddyrys sydd ohoni.

Bydd Mr Jones yn ymweld yn gyntaf â Phrifysgol Abertawe lle bydd yn cwrdd â’r Is-ganghellor, yr Athro Richard B. Davies, i weld sut mae’r brifysgol yn tanlinellu ei statws fel arweinydd mewn gwyddoniaeth ac arloesedd.

Bydd Mr Jones yn ymweld â’r Coleg Peirianneg lle caiff weld cyfleusterau SMaRT (Swansea Materials Research and Testing) a chael gwybod am eu gwaith gyda chwmni Rolls Royce. Bydd yn ymweld hefyd â’r Technium Digidol lle mae arweinwyr busnes yn cymryd rhan yn LEAD Cymru – rhaglen datblygu arweinyddiaeth sydd wedi’i chynllunio i sicrhau y caiff Busnesau Bach a Chanolig y sgiliau angenrheidiol i fynd â’u busnesau i’r lefel nesaf.

Meddai’r Athro Richard B. Davies, Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe:

Mae’r cyfleuster SMaRT (Swansea Materials Research and Testing) yn brosiect ar y cyd rhwng Rolls Royce a Phrifysgol Abertawe sy’n ateb anghenion Rolls-Royce a chleientiaid eraill am brofi defnyddiau newydd a phresennol a ddefnyddir yn y diwydiannau aerofod a pheiriannau awyrennau i chwilio am arwyddion o ymgripiad a lludded. Mae’n cynnal cymysgedd o ymchwil academaidd uwch a chyfleuster profi a dadansoddi diwydiannol masnachol.

Gyda’r buddsoddiad mwyaf erioed mewn staff newydd a’n seilwaith ymchwil, rydym wedi sicrhau’r datblygiadau diweddaraf ar y campws a newidiadau adeileddol o fewn ein Colegau academaidd, i feithrin amgylchedd lle gall gwaith ymchwil o’r radd flaenaf ffynnu ochr yn ochr â phartneriaid diwydiannol sy’n gallu rhoi gwedd fasnachol ar rai o’r syniadau a’r dyfeisiadau newydd.

Aiff yr Ysgrifennydd Gwladol wedyn i weld canolfan ragoriaeth Virgin Media ym Mharc Anturiaeth Abertawe. Cyhoeddodd y cwmni cyfryngau digidol byd-eang yn gynharach eleni y byddai’n creu 230 o swyddi newydd yn y ganolfan wych hon sydd eisoes yn weithfan i ryw 900 o weithwyr gwasanaeth cwsmeriaid a chymorth technegol.

Meddai Paul Buttery, prif swyddog cwsmeriaid a rhwydweithiau Virgin Media:

Rydym yn falch o allu dangos ein canolfan, sydd o’r radd flaenaf, i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ac yn falch o’r ffaith ein bod, yn y dyddiau economaidd caled hyn, wedi dal i allu buddsoddi ymhellach yn yr economi lleol i’n helpu i ateb y galw am ein gwasanaethau TiVo, ffôn a band llydan cyflym iawn ar draws y Deyrnas Unedig.

Mae’n destun balchder inni ein bod yn cynnig cyfle i gymaint yn fwy o bobl yn ne Cymru, ac yn ein canolfannau eraill ledled y wlad, fwynhau gyrfa gyffrous a buddiol yn rheng flaen datblygiadau adloniant a chyfathrebu’r genhedlaeth nesaf. Wrth inni ddal i ehangu, bydd Virgin Media’n fwy abl fyth i gyflawni gobeithion y Llywodraeth ar gyfer de Cymru a’r Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd.

 phêl-droed Ewropeaidd a statws Uwch Gynghrair Lloegr wedi’u gwarantu am dymor arall, bydd llwyddiant Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe ac effaith gadarnhaol hynny ar yr economi lleol yn destun trafod pan aiff yr Ysgrifennydd Gwladol draw i Stadiwm Liberty yn ddiweddarach ddydd Iau.

Dangosodd astudiaeth a wnaed ac a gyhoeddwyd gan Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd ym mis Ionawr fod tymor cyntaf clwb Abertawe yn yr Uwch Gynghrair wedi cynhyrchu £58 miliwn i economi Cymru. Amcangyfrifodd hefyd fod 400 o swyddi (340 ohonynt yn Abertawe) wedi’u creu neu eu diogelu gan bêl-droed yr adran uchaf.

Bydd Mr Jones yn cwrdd â Chadeirydd y clwb, Huw Jenkins i drafod llwyddiant y clwb ar y cae ac oddi arno. Wedyn bydd yn troi ei sylw at lwyddiant diwydiant bwyd a diod Cymru gan ymweld â Bragdy Tomos Watkin – un o’r brandiau sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru gyda gwerthiant ar i fyny yn y wlad hon a thramor.

Meddai Connie Parry, Prif Swyddog Gweithredol Tomos Watkins:

Mae bragu’r cwrw gorau yng Nghymru, i’r Cymry, yn wefr arbennig ac rydym yn dal i gyflogi staff newydd a buddsoddi mewn ehangu ein bragdy. Rydym yn edrych ymlaen at rannu hanes ein llwyddiant gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Ychwanegodd Mr Jones:

Mae busnesau preifat Prydain yn hollbwysig i adfywiad economaidd y wlad. Dyma fusnesau sy’n arloesi er mwyn gwella bywydau pobl, yn adeiladu seilwaith hanfodol, ac yn allforio nwyddau a gwasanaethau o’r radd flaenaf i rannau eraill o’r byd sy’n prysur ddatblygu.

Ddydd Gwener (26 Ebrill), bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn dychwelyd i safle Gwaith Dur Tata yn Aberafan lle bydd yn cwrdd â’r uwch dîm rheoli a chynrychiolwyr yr undeb i gael y newyddion diweddaraf am yr heriau a’r cyfleon sy’n wynebu’r cwmni. Bydd yn ymweld hefyd â safle’r Ffwrnais Chwyth newydd, Rhif 4, sy’n weithredol er mis Chwefror.

Wedyn bydd Mr Jones yn ymweld â Chanolfan Beirianneg SPECIFIC (Sustainable Product Engineering Centre for Innovative Functional Industrial Coating) ym Mharc Ynni Baglan. Y weledigaeth a rennir gan bartneriaeth SPECIFIC, dan arweiniad Prifysgol Abertawe, yw trawsnewid adeiladau’n bwerdai drwy osod haenau cynhyrchu ynni gweithredol ar eu toeau a’u waliau. Mae’r bartneriaeth yn cynnwys grwpiau prifysgol blaengar eraill, gan gynnwys Coleg Imperial, Caerfaddon, Bangor, Caerdydd, Glyndŵr a Sheffield, a chwmnïau amlwladol fel Tata Steel, BASF ac NSG Pilkington.

Meddai Paul Jones, Cyfarwyddwr Diwydiannol SPECIFIC:

Targedau economaidd sydd gennym, sef yn gyntaf oll creu diwydiant gwerth biliwn o bunnoedd, 5-10,000 o swyddi, ac erbyn y 2020au i sicrhau bod traean o ynni adnewyddol y Deyrnas Unedig yn dod o adeiladau.

Rydym wedi cydleoli adnoddau i ganiatáu ymchwil cyflym a masnacholi cyflym ond yn bwysicaf oll rydym yn gweithio gyda chyrff byd-eang i roi’r technolegau hyn ar waith dros y byd i gyd.

I gau pen y mwdwl ar y diwrnod, bydd Mr Jones yn mynd gyda’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, Patrick McLoughlin, i weld Traphont Llwchwr ger Abertawe. Mae’r prosiect £20 miliwn i godi pont newydd yn lle’r hen draphont wedi’i gwblhau fel rhan o becyn o welliannau gorsafoedd a seilwaith sy’n cael eu cyflawni gan Network Rail i sicrhau bod teithio ar drên yn fwy cyfforddus a deniadol i’r cyhoedd.

Bydd Mr Jones a Mr McLoughlin yn cwrdd â chynrychiolwyr Network Rail i gael y newyddion diweddaraf am y cynlluniau i drydanu’r rheilffordd o Lundain i Abertawe, ac am fuddsoddi pellach yn y rheilffyrdd yng Nghymru.

Cyhoeddwyd ar 25 April 2013