Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru’n cefnogi Menter Ysgolion Treftadaeth Cymru

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, wedi cynnig ei chefnogaeth i fenter sydd wedi bod yn ailgysylltu ysgolion a chymunedau a threftadaeth…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, wedi cynnig ei chefnogaeth i fenter sydd wedi bod yn ailgysylltu ysgolion a chymunedau a threftadaeth a thraddodiadau Cymru dros yr ugain mlynedd diwethaf.

Mae Menter Ysgolion Treftadaeth Cymru’n gweithio gyda grwpiau cymunedol, mudiadau ac ysgolion, i’w galluogi i gymryd rhan mewn amrywiol brosiectau treftadaeth gan gynnwys eu teuluoedd a’r gymuned ehangach.    Mae’r fenter yn dathlu ei hugeinfed pen-blwydd eleni. 

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru fod y mudiad wedi cynorthwyo i adfywio treftadaeth i’r bobl sy’n gweithio yn y maes, gan ganiatau i’r cenedlaethau i ddod barhau a thraddodiadau Cymru a’u gwerthfawrogi, drwy’r llu o brosiectau sydd ar gael.

Dywedodd Mrs Gillan:** “Mae Menter Ysgolion Treftadaeth Cymru’n wedi annog pobl o bob oed i ymchwilio i’r cyfoeth o hanes, diwylliant a phobl sy’n perthyn i’n gwlad. Drwy annog cymunedau i ailgydio yn eu treftadaeth a’u traddodiadau unwaith yn rhagor, yr ydym yn adfywio rhyfeddodau’r gorffennol er mwyn eu diogelu ar gyfer y cenedlaethau sydd i ddod. **

“Rwyf felly’n falch o gynnig fy nghefnogaeth i’r fenter, ar ei phen-blwydd yn ugain oed, ac yn dymuno pob llwyddiant yn y dyfodol a blynyddoedd lawer o addysgu ac ysbrydoli pobl Cymru.”

Cyhoeddwyd ar 16 June 2011