Ysgrifennydd Cymru yn cefnogi Wythnos Gwirfoddoli ymhlith Myfyrwyr yng Nghymru
Mae Ysgrifennydd Cymru wedi croesawu Myfyrwyr sy’n Gwirfoddoli i Dŷ Gwydyr wrth i Brifysgolion o amgylch y wlad ddathlu pen-blwydd Wythnos Gwirfoddoli…

Mae Ysgrifennydd Cymru wedi croesawu Myfyrwyr sy’n Gwirfoddoli i Dŷ Gwydyr wrth i Brifysgolion o amgylch y wlad ddathlu pen-blwydd Wythnos Gwirfoddoli ymhlith Myfyrwyr yn 10 oed.
I gydnabod y cyfraniad y mae myfyrwyr sy’n gwirfoddoli yn ei wneud o amgylch Cymru, dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol fod myfyrwyr yn dangos ymrwymiad ac ymroddiad i’w cymunedau gan helpu i godi proffil gwirfoddoli hefyd er mwyn annog pobl o bob oed i gymryd rhan.
Bu Ysgrifennydd Cymru yn cwrdd a myfyrwyr sy’n gwirfoddoli o Aberystwyth, Richard Piper-Griffiths a Liam Roberts, a fu’n trafod nifer o ymgyrchoedd a phrosiectau sy’n cael cymorth gan fyfyrwyr sy’n gwirfoddoli, gan gynnwys Unicef, Oxfam a Read International.
Dywedodd Mrs Gillan: “Mae cymhelliant a phenderfyniad y myfyrwyr wedi creu argraff arnaf. Maen nhw wedi dangos bod pobl ifanc yn frwdfrydig, yn ddyfeisgar ac yn greadigol gyda’u gwaith gwirfoddoli. Maen nhw’n ysbrydoli eraill i ddod yn ddinasyddion brwd ac fel rhan o’r broses - maen nhw’n datblygu sgiliau cyflogadwyedd amhrisiadwy a fydd yn fuddiol iawn iddyn nhw ar ol gorffen eu haddysg.”
Dywedodd Richard, prif lysgennad Cymru ar gyfer Wythnos Gwirfoddoli ymhlith Myfyrwyr yng Nghanolbarth Cymru: “Mae Wythnos Gwirfoddoli ymhlith Myfyrwyr yn ymwneud a chodi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr wirfoddoli. Mae gwirfoddoli yn cael effaith gymdeithasol bwerus ar y gymuned gyfagos ac mae llawer o gyfleoedd ar gael i gymryd rhan, yn enwedig o ran ymgyrchu a chodi arian.”
Ychwanegodd Liam Roberts: “Mae gwirfoddoli yn galluogi myfyrwyr i fod yn rhan o rywbeth cadarnhaol a gwerthfawr. Rydym am annog myfyrwyr o bob cefndir i gofrestru i wirfoddoli.”
Mae pen-blwydd Wythnos Gwirfoddoli ymhlith Myfyrwyr yn 10 oed yn cyd-fynd a Blwyddyn Ryngwladol Gwirfoddoli +10 y Cenhedloedd Unedig a’r Flwyddyn Wirfoddoli Ewropeaidd.