Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn cefnogi Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau

Heddiw [7fed Chwefror] fe wnaeth Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ddatgan ei chefnogaeth i brentisiaid ifanc, wrth i ddathliadau gael…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw [7fed Chwefror] fe wnaeth Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ddatgan ei chefnogaeth i brentisiaid ifanc, wrth i ddathliadau gael eu cynnal ledled y Deyrnas Unedig i nodi ‘Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2012’.

Fe wnaeth Ysgrifennydd Cymru gyfarfod a Minhaj Miah a Paul Fonceca heddiw, sef pobl ifanc sydd ar raglenni prentisiaeth blwyddyn yn Nhŷ Gwydyr, Llundain ar hyn o bryd.  Ers y llynedd, mae Swyddfa Cymru wedi cynnig y prentisiaethau hyn fel rhan o ymrwymiad i gynyddu mynediad a chyfleoedd ar gyfer pobl ifanc.   

Dywedodd Mrs Gillan: “Mae profiad gwaith a phrentisiaethau yn ffurfio rhan bwysig o gynlluniau traws-lywodraethol i fynd i’r afael a diweithdra ymysg bobl ifanc, sy’n parhau i fod yn annerbyniol o uchel.  Mae profiad gwaith yn un o gyfres o fesurau ‘Cael Prydain i Weithio’ ac mae’n rhan o becyn cefnogaeth y Ganolfan Byd Gwaith i helpu pobl i chwilio am swyddi newydd, a sicrhau’r swyddi hynny.

“Mae’r Llywodraeth yn awyddus i fynd a chyngor a chefnogaeth sydd wedi’u teilwra i bobl ifanc i’r lle mae eu hangen fwyaf, ac mae prentisiaethau yn elfen allweddol o roi’r sgiliau priodol i bobl ifanc, sef y sgiliau mae arnynt eu hangen i ddatblygu yn eu gyrfaoedd.  Mae gan y ddwy Lywodraeth ystod o becynnau sydd wedi’u creu i helpu pobl ifanc i ddod o hyd i’r cyfleoedd mae arnynt eu hangen i roi hwb i’w gyrfaoedd. Holl ddiben Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau yw dathlu’r llwyddiannau hyn, gan ysbrydoli cyflogwyr i ddarparu mwy o brentisiaethau o safon uchel hefyd.

“Mae Minhaj a Paul wedi profi eu bod wir yn ased i Swyddfa Cymru, a byddaf yn annog cyflogwyr i ystyried helpu pobl ifanc i ddatblygu’r sgiliau mae arnynt eu hangen. Yn ei dro, gallai hyn wneud y gweithle yn lle mwy cynhyrchiol, llawn cymhelliant.  Mae gan bobl ifanc gyfoeth o sgiliau a syniadau ffres i’w cynnig, ac yn ogystal a chynnig cyfnod o brofiad gwaith gwerthfawr, gall prentisiaethau fod yn ddechrau ar oes o ddysgu.   Edrychaf ymlaen at gwrdd a Minhaj a Paul eto’n fuan i weld sut maent yn dod yn eu blaenau.”  

Dywedodd Minhaj Miah, sydd wedi ymuno a Thim Cyllid a Llywodraethu Corfforaethol Swyddfa Cymru:  “Cefais fy magu yn Tower Hamlets. Roedd gen i ddiddordeb mewn gweithio o fewn busnes erioed, gan fod fy nghartref ger Canary Wharf. Mae’n bleser cael gweithio i Swyddfa Cymru a minnau ond yn 17 mlwydd oed. Dyma fy swydd gyntaf, ac rwy’n magu mwy a mwy o hyder o hyd. Rwyf wedi dysgu cymaint yn barod.

“Rwy’n credu bod prentisiaethau’n caniatau i chi gyfarfod a phob math o bobl; pobl a all helpu i’ch rhoi ar ben ffordd o ran eich gyrfa yn y dyfodol. Mae gwybod y bydd y sgiliau rwy’n eu datblygu yn fy helpu yn y dyfodol yn gwneud y cyfan yn werth chweil.”  

Mae Paul Fonceca, 21, o Penge, De Llundain, yn gweithio gyda thim Gwasanaethau Corfforaethol Swyddfa Cymru ar hyn o bryd. Dywedodd Mr Fonceca: “Roeddwn eisiau ymuno a Swyddfa Cymru fel prentis gan fy mod yn credu bod Swyddfa Cymru yn lle gwych i ddatblygu fy sgiliau, gan weithio mewn amgylchedd swyddfa. Rwy’n gobeithio ennill NVQ lefel 2 a 3 o ganlyniad i ochr brentisiaeth fy swydd, yn ogystal ag ennill profiad gwaith gwerthfawr a fydd yn fy helpu gyda fy ngyrfa.”

Nodiadau i Olygyddion:

  • Yr wythnos hon, mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn cynnal nifer o weithgareddau codi ymwybyddiaeth er mwyn nodi Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau.  Bydd rhagor o wybodaeth ar gael gan yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau http://bit.ly/yxidJe, Llywodraeth Cymru http://bit.ly/AlUAIS, a Gyrfa Cymru http://bit.ly/zTtV9V
Cyhoeddwyd ar 7 February 2012