Ysgrifennydd Cymru’n cefnogi lansiad ymgyrch diogelwch ar-lein
Heddiw (22 Hydref 2012), mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, wedi cefnogi lansiad ymgyrch ‘Get Safe Online’ yng nghanol dinas Caerdydd…
![](https://assets.publishing.service.gov.uk/media/5a37dabaed915d5a5f965fd7/s300_UKG_Logo__2_.png)
Heddiw (22 Hydref 2012), mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, wedi cefnogi lansiad ymgyrch ‘Get Safe Online’ yng nghanol dinas Caerdydd.
Menter yn y DU yw Get Safe Online (www.getsafeonline.org), ac mae yn ei seithfed blwyddyn bellach. Mae’n fenter genedlaethol i greu ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar y rhyngrwyd.
Mae’n bartneriaeth ar y cyd rhwng y Llywodraeth, yr Asiantaeth Troseddau Cyfundrefnol Difrifol (SOCA), Ofcom a noddwyr o’r sector preifat o faes technoleg, cyfathrebu, adwerthu a chyllid. Nod y fenter yw addysgu a chyflwyno gwybodaeth am faterion diogelwch ar y rhyngrwyd, a chreu ymwybyddiaeth ohonynt, er mwyn annog defnydd hyderus a diogel o’r rhyngrwyd.
Eleni mae Get Safe Online yn galw ar i bawb ‘Glicio a Dweud’ - hynny yw, darllen y cynghorion diogelwch ar-lein yng ngwefan y fenter a’u rhannu gydag eraill a all elwa o’r cyngor, yn ffrindiau, teulu, cydweithwyr, cymdogion neu ddieithriaid hyd yn oed.
Mae arolwg a gynhaliwyd gan dim yr ymgyrch wedi datgelu bod 55% o drigolion Caerdydd wedi cael eu targedu gan droseddwyr ar-lein, gydag ymosodiad llwyddiannus yn costio £158 y person ar gyfartaledd. Mae o drigolion Caerdydd wedi dioddef o droseddu ar-lein ond eto maent dal yn ddidaro am ddiogelwch ar-lein.
Er gwaethaf nifer yr ymosodiadau ar drigolion Caerdydd, datgelodd yr arolwg nad yw hynny wedi newid ymddygiad pobl. O blith y rhai a oedd wedi profi ymosodiad, roedd 67% yn dal i ddefnyddio eu gliniaduron, 76% yn dal i ddefnyddio eu teclynnau tabled ac 83% yn dal i ddefnyddio eu ffonau clyfar yn yr un ffordd.
Hefyd, er gwaetha’r ffaith bod cyfrifon cyfryngau cymdeithasol mwy nag un o bob deg o bobl yng Nghaerdydd wedi cael eu hacio, mae llai na hanner yr ymatebwyr (48%) yn defnyddio’r gosodiadau diogelwch uchaf ar safle rhwydweithio cymdeithasol Facebook ac nid yw un o bob deg (10%) yn ymwybodol bod modd i chi newid eich gosodiadau diogelwch.
Wrth siarad yn lansiad ymgyrch 2012 Get Safe Online yng Nghaerdydd, dywedodd Mr Jones:
“Mae gan bob un ohonom ni ran bwysig i’w chwarae mewn gwneud yn siŵr bod ein bywyd ni ar-lein yn ddiogel. Mae’r ymgyrch Get Safe Online yn rhoi’r wybodaeth y mae arnom ei hangen i ni i’n gwarchod ein hunain a’n teuluoedd rhag bygythiadau ar-lein, ac mae’n bleser gen i gefnogi’r ymgyrch wrth iddi gael ei sefydlu yng Nghaerdydd. Rydyn ni i gyd yn rhannu’r cyfrifoldeb ac mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae mewn diogelwch seibr.”
Dywedodd Tony Neate, Prif Swyddog Gweithredol Get Safe Online: “Mae troseddu ar-lein yn gallu bod yn fygythiad i bob un ohonom ni yn y DU. Ond cofiwch, mae’r rhyngrwyd yn lle gwych sy’n galluogi i ni wneud pethau gret, felly ni ddylai pobl deimlo na allant fwynhau ei holl fanteision. Mae cadw’n ddiogel yn gallu bod yn syml iawn a phan fydda’ i’n edrych ar y pum bygythiad mwyaf ar-lein, rydw i’n cael fy nghalonogi mai dim ond newid ychydig ar ein hymddygiad sydd raid i ni er mwyn sicrhau bod y rhyngrwyd yn lle diogel.
“Cynhaliwyd yr arolwg hwn gennym ni er mwyn tynnu sylw at yr angen am fwy o ymwybyddiaeth o gadw’n ddiogel ar-lein ac mae wedi llwyddo i wneud hynny. Hefyd, rhwng yr 22ain a’r 26ain Hydref, bydd getsafeonline.org yn ymweld a dinasoedd ar hyd a lled y DU i ledaenu’r gair am fod yn ddiogel ar-lein. Ac nid dim ond y ni all sbarduno newid. Ni ddylai pobl deimlo cywilydd am brofi ymosodiad neu fod angen rhagor o wybodaeth a dyna pam rydyn ni’n annog pobl i ‘Glicio a Dweud’ - ewch i wefan Get Safe Online, darllenwch y cynghorion diogelwch ar lein ac yna’u rhannu gyda ffrindiau, teulu. cydweithwyr, cymdogion neu hyd yn oed ddieithriaid a all elwa o’r cyngor.”
I bobl sydd eisiau rhagor o wybodaeth am fod yn ddiogel ar-lein, bydd bws teithiol Get Safe Online yn ymweld a Chaerdydd ddydd Llun 22ain Hydref gan aros yng Ngorsaf Drenau Canol Caerdydd, Stryd Working, Arced y Frenhines ac ysgolion a cholegau lleol yn yr ardal.