Ysgrifennydd Cymru yn cefnogi Cyngerdd Gala er budd Apêl Glowyr Abertawe
Dywedodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru: “Mae’r Cyngerdd Gala heno er budd Apel Glowyr Abertawe yn brawf amlwg o hyd a lled y gefnogaeth…
Dywedodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
“Mae’r Cyngerdd Gala heno er budd Apel Glowyr Abertawe yn brawf amlwg o hyd a lled y gefnogaeth i deuluoedd a ffrindiau Charles, Garry, Philip a David a gollodd eu bywydau yn y drasiedi. Mae’r ymateb i Apel y Glowyr wedi bod yn galonogol ac rwy’n gwybod y bydd y Cyngerdd heddiw yn rhoi cyfle arall i bobl ddangos eu cefnogaeth i’r teuluoedd sydd wedi colli eu hanwyliaid a’u bywoliaeth.”
“Hoffwn roi teyrnged i ymdrechion y gwasanaethau brys, y gymuned leol a’r mudiadau a roddodd gefnogaeth i bawb dan sylw yn ystod y diwrnodau anodd iawn hynny fis diwethaf. Mawr obeithiaf y bydd y Cyngerdd yn helpu i ddangos y gefnogaeth ddiflino i’r teuluoedd a’r ffrindiau, nid yn unig o Gymru ond o bob cwr o’r DU”