Stori newyddion

Ysgrifennydd Cymru'n Stephen Crabb ymweld â Sioe Frenhinol Cymru

Stephen Crabb: "Rhaid i ni gywain potensial economaidd ein diwydiant bwyd a ffermio yn llawn"

Royal Welsh Show

Bydd cefnogi’r sbectrwm llawn o fywyd gwledig a ffermio yng Nghymru yn ffactor pwysig o ran sicrhau ein ffyniant economaidd yn y dyfodol, yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb, heddiw yn ystod ei ymweld â Sioe Frenhinol Cymru (23 Gorffennaf).

Roedd y maes yn Llanelwedd yn gefndir i’r cyhoeddiad am ymrwymiad Llywodraeth y DU i helpu’r sector bwyd a ffermio i ddod â £7.4 biliwn yn ychwanegol i economi’r DU dros y pum mlynedd nesaf.

O greu Canolfan Arloesedd Bwyd ar gyfer y DU gyfan i weld rhagor o gynnyrch o Gymru ar y rhestr o Enwau Bwyd Gwarchodedig, nod y mesurau yw creu rhagor o swyddi mewn ardaloedd gwledig a denu mwy o fuddsoddiad i gymunedau lleol Cymru.

I nodi’r cyhoeddiad, aeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Sioe Frenhinol Cymru yng gnhwmni David Cameron oedd yn ymweld a’r Sioe am yr eilwaith mewn dwy flynnedd. Cyfaru’r ddau â sefydliadau amaethyddol, a gweld yr amrywiaeth o gynnyrch o Gymru sy’n llenwi silffoedd archfarchnadoedd ac sydd i’w gweld mewn bariau a thai bwyta ar draws y byd.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol Stephen Crabb:

Mae Cymru’n gartref i rai o’r busnesau bwyd a ffermio mwyaf arloesol yn y DU - gyda’u gwreiddiau’n ddwfn yn eu cymunedau ond â’u golwg, yn bwysig iawn, ar y byd.

Mae’n hollbwysig ein bod ni’n cywain potensial economaidd ein busnesau gwledig yng Nghymru yn llawn, a hynny gartref a thramor. Dyna pam ein bod ni’n cael gwared â rhwystrau masnachu er mwyn i ffermwyr allforio i wledydd newydd, ac yn cael gwared ar fiwrocratiaeth er mwyn iddyn nhw allu dal ai i ffermio yn hytrach na gorfod gwneud gwaith papur. Mae ein buddsoddiad gwerth £69 miliwn mewn band eang cyflym iawn nawr yn cyrraedd y cartrefi a’r busnesau hynny yn yr ardaloedd mwyaf anhygyrch yng Nghymru, gan ei gwneud yn haws i ffermwyr ddal ati gyda’u trafodion cymdeithasol a busnes ar-lein.

Mae hyn i gyd yn rhan o’n cynllun hirdymor i feithrin diwydiant bwyd a ffermio sy’n dal i dyfu ac sy’n creu swyddi i bobl Cymru.

NODIADAU I OLYGYDDION:

Mae Llywodraeth y DU yn gweithio’n galed i gefnogi’r diwydiant ffermio a rhoi hwb i’r economi yng Nghymru drwy:

  • Agor marchnadoedd newydd ar gyfer allforio
  • Cryfhau rôl dyfarnwr y cod cyflenwi bwydydd
  • Annog banciau i helpu ffermwyr mewn cyfnodau anodd
  • Parhau i bwyso ar yr UE i gymryd camau pellach yng nghyswllt labelu bwyd
  • Cynyddu’r cyfnod y gall ffermwyr gyfrifo eu helw o ddwy flynedd i bum blynedd o fis Ebrill nesaf.
Cyhoeddwyd ar 23 July 2015