Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru: Bydd y Cylch Gwario yn creu cymdeithas gryfach a thecach

Mae cyhoeddiad y Cylch Gwario heddiw yn tanlinellu ymrwymiad y Llywodraeth i arfogi Cymru a Phrydain â’r arfau i sicrhau economi gryfach a chymdeithas decach, meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
Wales Office

Wales Office

Mae’r cylch gwario’n nodi sut y bydd y Llywodraeth yn parhau i leihau’r diffyg drwy wneud penderfyniadau anodd i dorri ar wariant cyhoeddus a blaenoriaethu buddsoddiadau mewn seilwaith.

Cyhoeddwyd heddiw y bydd cyllideb cyfalaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015/16 yn cynyddu 2.0%, gan alluogi Llywodraeth Cymru i gynyddu’r gwariant ar brosiectau seilwaith a chefnogi twf.

Mae’r Ysgrifennydd Gwladol nawr yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y penderfyniadau cywir o ran sut y mae’n gwario’r cyllid ychwanegol.

Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae ymrwymiad y Llywodraeth hon i gefnogi seilwaith a thwf yn amlwg yn y Cylch Gwario hwn. Mae Llywodraeth y DU yn cyflwyno cyllidebau cyfalaf uwch i Lywodraeth Cymru, yn ychwanegol at yr £858 miliwn o adnoddau cyfalaf ychwanegol a ddarparwyd yn dilyn cyhoeddiadau’r Gyllideb a Datganiad yr Hydref. Rwy’n ei herio nawr i nodi ei blaenoriaethau a defnyddio’r cyllid hwn i fuddsoddi mewn seilwaith o ansawdd uchel.

Oherwydd bod y llywodraeth hon wedi gwarchod addysg ac iechyd, mae cyllideb adnoddau Llywodraeth Cymru wedi’i diogelu i raddau helaeth.

Rydyn ni hefyd wedi clywed heddiw y bydd y llywodraeth hon yn rhewi’r dreth gyngor yn Lloegr am y ddwy flynedd nesaf a bydd yn diwygio ei chyllid i ofal cymdeithasol. Yn amlwg, mater i Lywodraeth Cymru yw sut y mae Llywodraeth Cymru am wario ei chyllidebau, a hynny’n gwbl briodol. Fodd bynnag, byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i nodi’r mesurau hyn yn ofalus iawn, ac ystyried sut y bydd yn dyrannu yn unol â’i blaenoriaethau ei hun.

Cyhoeddwyd heddiw hefyd fod Llywodraeth y DU yn paratoi ffurf derfynol ei hymateb i’r Comisiwn Silk a bydd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ystyried sut y gall hyn helpu i gefnogi ateb ar gyfer cyllido cynllun gwella’r M4.

Ychwanegodd Mr Jones:

Mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod y byddai cyfuniad o grant bloc a hunangyllido, fel yr argymhellir gan y Comisiwn Silk, yn gwella atebolrwydd ariannol ac ymreolaeth Llywodraeth Cymru.

Rydyn ni’n gwneud cynnydd da a chadarnhaol o ran asesu argymhellion y Comisiwn Silk, a’n nod yw gwneud cyhoeddiad yn y dyfodol agos iawn.

Mewn mesurau eraill a gyhoeddwyd heddiw, bydd lefel y cyllid a ddarperir i’r darlledwr Cymraeg, S4C, drwy’r Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn aros ar yr un lefel ar gyfer 2015/16.

Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cytuno â Llywodraeth Cymru i ddiwygio system Cymhorthdal y Cyfrif Tai i roi hyblygrwydd i awdurdodau lleol Cymru i reoli eu gwariant eu hunain ar dai.

Cyhoeddwyd ar 26 June 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 27 June 2013 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.