Stori newyddion

Ysgrifennydd Cymru yn nodi cyfle Cymru i ‘serennu’

Bydd y ffaith bod y fflam Olympaidd yn dod i Gymru ac yn cychwyn ar daith o gwmpas y wlad yn “tynnu sylw at lefydd, pobl, gwerthoedd a thraddodiadau…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bydd y ffaith bod y fflam Olympaidd yn dod i Gymru ac yn cychwyn ar daith o gwmpas y wlad yn “tynnu sylw at lefydd, pobl, gwerthoedd a thraddodiadau Cymru” meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan heddiw (25 Mai) wrth iddi groesawu’r fflam i Gymru.

Bydd Mrs Gillan yn mynd i ddigwyddiad taith gyfnewid y fflam yn Neuadd Sir Fynwy, wedi’i drefnu gan Gyngor Sir Fynwy, i nodi bod y fflam wedi cyrraedd Cymru.

Bydd cannoedd o bobl yn tyrru ar y strydoedd i groesawu’r fflam a’i dathlu wrth iddi deithio drwy’r dref ar ddiwrnod cyntaf y daith chwe diwrnod drwy Gymru.

Enwebwyd Hazel Cave-Brown-Cave, 44 o Raglan, i gario’r fflam gan ei chwaer.Mae Hazel yn rhedwr o fri ac mae’n arfer rhedeg marathon yn rheolaidd i godi arian i Bobath Cymru.Arferai wirfoddoli yng Ngrŵp Ieuenctid Raglan cyn cael cynnig swydd lawn amser ac mae wedi cwblhau triniaeth ar gyfer canser y fron yn ddiweddar.

Wrth siarad cyn y daith gyfnewid, dywedodd Hazel:

“Mae’n fraint go iawn i mi gael cario’r fflam, ac rwy’n dal i’w chael hi’n anodd credu fy mod i wedi cael fy newis allan o’r nifer fawr o bobl a gafodd eu henwebu.

“Rwy’n edrych ymlaen fwyfwy wrth i’r amser agosau.  Fe fydd yna lawer o bobl yn fy annog, fy rhieni a’m chwaer, ac mae ffrind yn dod o Northampton er mwyn fy ngweld i’n rhedeg.Hefyd, fe fydd ffrindiau o’r eglwys ac o bentref Raglan yno.Fe ddylai fod yn ddiwrnod cyffrous a phwysig iawn.”

Cyngor Sir Fynwy enwebodd Robyn Tyler, 21 o Drefynwy, i redeg ar ol iddi wella ei hiechyd yn dilyn cael ei chyfeirio ar eu cynllun gwneud ymarfer corff ym mis Awst 2010.

Mae hi wedi colli llawer o bwysau, mae ei hunanhyder a’i hunan-barch wedi gwella’n sylweddol ac mae ei llwyddiant yn helpu i annog eraill i wella ansawdd eu bywydau.

Dywedodd Robyn:

“Mae cael fy enwebu’n golygu llawer i mi.Mae’n deimlad mor anhygoel a rhyfeddol bod pobl yn meddwl fy mod i’n haeddu’r cyfle yma.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y diwrnod cyfan, nid fy nghyfle i redeg yn unig, ond i gefnogi pobl eraill sydd wedi cael eu henwebu hefyd.Mae gen i gymaint o ffrindiau a theulu sy’n dod i fy nghefnogi i, dw i ddim yn meddwl bod digon o le iddyn nhw i gyd yn Nhrefynwy!Mae fy narpar ŵr, mam, taid a nain yn benderfynol o fynd i’r rhes flaen a gweiddi nerth esgyrn eu pennau.

“Bydd gweld y fflam yn teithio drwy Drefynwy yn golygu llawer i ni i gyd yma.Er mai tref fechan ar y ffin ydyn ni, rydyn ni’n teimlo’n rhan o gynllun mwy Gemau Olympaidd Llundain 2012.”

Wrth siarad cyn y dathliadau yn Nhrefynwy, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan:

“Mae Taith Fflam Olympaidd Llundain 2012 yn gyfle i Gymru ‘serennu’, ac yn gyfle i dynnu sylw at y bobl a’r llefydd sy’n gwneud y wlad mor wych.

“Dros y pum niwrnod nesaf, bydd tua 550 o redwyr yn cario’r fflam Olympaidd ar hyd dros 300 o strydoedd yng Nghymru, ac mae hwn yn gyfle unigryw i ni ddathlu’r Gemau fel gwlad.

“Rwy’n llongyfarch yr holl bobl ledled Cymru sydd wedi cael eu dewis i fod yn rhan o’r dathliadau, ac sy’n haeddu hynny hefyd. Rwy’n edrych ymlaen at weld pawb yn dod at ei gilydd i ddathlu eu cymunedau, i gefnogi ein hathletwyr, a dangos i’r byd beth mae Cymru, a’r DU gyfan, yn ei gynrychioli.”

Cyhoeddwyd ar 25 May 2012