Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru: “Mae morgludo yn beiriant ar gyfer twf yng Nghymru”

Swyddfa Cymru yn cefnogi Wythnos Morgludo Rhyngwladol Llundain.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
Port of Cardiff

Port of Cardiff

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru , David Jones , yn cynnal digwyddiad ar gyfer sector morol Cymru fel rhan o Wythnos Morgludo Rhyngwladol Llundain ar 11 Medi 2013.

Nod y digwyddiad hwn yw dod â chynrychiolwyr o’r diwydiant morol yng Nghymru, Gweinidogion y llywodraeth ac arbenigwyr eraill o’r diwydiant at ei gilydd i drafod y ffordd orau i ddatblygu’r diwydiant.

Yng Nghymru, mae gwasanaethau morol yn cynrychioli bron i 2% o Werth Ychwanegol Crynswth (GVA) yn flynyddol, gyda phorthladdoedd Cymru’n symud oddeutu 60 miliwn tunnell o gargo. Mae hyn yn cyfateb i ychydig o dan 13% o gyfanswm mewnbwn y DU.

Gan siarad cyn y digwyddiad, dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Nid oes prinder uchelgais ymysg y rheini sy’n gweithio yn y diwydiant morol yng Nghymru. Yn dilyn fy ymweliadau â phorthladdoedd ledled Cymru, porthladd Caergybi yn fwyaf diweddar, rwy’n gwybod bod y diwydiant morgludo yn beiriant ar gyfer twf yng Nghymru.

Roeddwn am fanteisio ar y cyfle yn ystod Wythnos Morgludo Rhyngwladol Llundain i ddangos beth sydd gan Gymru i’w gynnig. Mae Porthladdoedd Cymru’n gwasanaethu’r pedair prif farchnad, ar olwynion, teithwyr, y sector ynni ac olew a chargo cyffredinol.

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i’r sector ac rwy’n gobeithio y gallwn helpu i greu rhagor o gyfleoedd ar gyfer twf drwy roi llwyfan i borthladdoedd Cymru yn ystod Wythnos Morgludo Rhyngwladol Llundain.

Dywedodd Patrick McLoughlin, yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth:

Y DU yw cartref naturiol y diwydiant hwn a Llundain yw canolfan y byd ar gyfer y gwasanaethau proffesiynol, busnes ac ariannol sy’n golygu bod y llongau’n dal i hwylio.

Mae ein baner ansawdd, ein system dreth ddeniadol, ein porthladdoedd cystadleuol, ein gweithwyr medrus, ein sector gwasanaeth arbenigol a’n fframwaith rheoleiddio sefydlog yn golygu ein bod mewn sefyllfa gref. Rydyn ni am weithio gyda’r diwydiant er mwyn deall beth all wneud y DU yn rhywle hyd yn oed mwy deniadol i drafod busnes.

Mae’r Adran Drafnidiaeth ac UK Maritime wedi cyhoeddi llyfryn heddiw, i gyd-fynd ag Wythnos Morgludo Rhyngwladol Llundain, Open for Maritime Business. Mae’r llyfryn yn dangos cymaint o arbenigedd a hanes sydd gan y DU ar draws yr holl wasanaethau morol a’r Cynlluniau Partneriaeth Strategol ar gyfer porthladdoedd a morgludo.

Mae’r rhain yn nodi blaenoriaethau allweddol ar gyfer cynnal diwydiant morgludo prysur, cynaliadwy ac o safon a diwydiant porthladdoedd ffyniannus yn y DU. Wrth weithio mewn partneriaeth, gall y llywodraeth, y diwydiant a rhanddeiliaid eraill sicrhau bod y sector morol yn parhau i dyfu yn y DU.

NODIADAU I OLYGYDDION:

*I gael rhagor o fanylion am y Bartneriaeth Porthladdoedd Strategol, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/shipping-strategic-partnership-plan-a-framework-for-discussion-between-government-industry-and-trade-unions

*Mae Swyddfa Cymru yn falch o fod yn noddi Wythnos Morgludo Rhyngwladol Llundain, a gynhelir rhwng 9 a 13 Medi.

*Mae Wythnos Morgludo Rhyngwladol Llundain – Rhoi Hwb i Fasnach y Byd yn ddigwyddiad diwydiant newydd a phwysig sy’n canolbwyntio ar rôl bwysig Llundain o ran datblygu morgludo byd-eang yn gadarnhaol.

*Mae Wythnos Morgludo Rhyngwladol Llundain yn cael ei ystyried fel y digwyddiad na ddylech ei fethu yn 2013 ar gyfer y diwydiant morgludo byd-eang a bydd yn dod â’r byd morgludo at ei gilydd am wythnos.

*Cysylltwch â Ruth Jolley yn yr Adran Drafnidiaeth gydag ymholiadau’r wasg ynghylch Wythnos Morgludo Rhyngwladol Llundain: Ruth.Jolley@dft.gsi.gov.uk neu 0207 944 6374 neu 07795 333 226

*Cysylltwch â Lynette Bowley ar 02920 92 4204 neu lynette.bowley@walesoffice.gsi.gov.uk gyda cheisiadau i gyfweld ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Delwedd drwy garedigrwydd Capt Gorgeous ar Flickr.

Cyhoeddwyd ar 9 September 2013