Stori newyddion

Ysgrifennydd Cymru’n anfon neges o gefnogaeth i Dîm Cymru yn Delhi

Mae Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, yn anfon neges o gefnogaeth i Dim Cymru gan ddymuno pob llwyddiant iddynt yng Ngemau’r Gymanwlad, a agorir…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, yn anfon neges o gefnogaeth i Dim Cymru gan ddymuno pob llwyddiant iddynt yng Ngemau’r Gymanwlad, a agorir gan EUB Tywysog Cymru, yn Delhi ddydd Sul (3 Hydref).

Bydd dros 170 o athletwyr o Gymru yn cystadlu mewn 15 allan o’r 17 o gampau yng Ngemau 2010, a gynhelir rhwng 3 a 14 Hydref. Mae athletwyr o Gymru’n dal pymtheg record yng Ngemau’r Gymanwlad mewn digwyddiadau ar y trac, beicio, saethu a chodi pwysau.

Wrth anfon neges o gefnogaeth i dim Cymru yn India, dywedodd Mrs Gillan: “Mae Tim Cymru’n barod i gystadlu yn erbyn y goreuon yn y Gymanwlad, ac rwy’n siŵr y bydd Cymru gyfan yn ymuno a mi i annog ein hathletwyr o Gymru i ennill y medalau.

“Gemau’r Gymanwlad yw’r unig ddigwyddiad aml-gamp lle mae Cymru’n cystadlu yn ei rhinwedd ei hun. Er gwaethaf y pryderon yn Delhi, sydd wedi cael cryn gyhoeddusrwydd, mae Gemau 2010 yn argoeli i fod yn ddigwyddiad cyffrous iawn yn y byd chwaraeon, a fydd yn rhoi cyfle gwych i’r Gymanwlad ddathlu ei hunaniaeth unigryw ei hun unwaith eto a rhoi cyfle i athletwyr Cymru ennill medalau.”

Cyhoeddwyd ar 1 October 2010