Ysgrifennydd Cymru yn anfon cwestiwn drafft y refferendwm i’r Comisiwn Ehtoliadol i’w ystyried
Heddiw, mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi ysgrifennu at y Comisiwn Etholiadol yn gwahodd eu safbwyntiau am y Cwestiwn a’r …
Heddiw, mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi ysgrifennu at y Comisiwn Etholiadol yn gwahodd eu safbwyntiau am y Cwestiwn a’r Datganiad Rhagarweiniol ar gyfer y refferendwm arfaethedig ynghylch pwerau deddfu Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Wrth siarad yn y sesiwn Cwestiynau am Gymru yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd Mrs Gillan y byddai’r Comisiwn Etholiadol yn awr yn cael y 10 wythnos angenrheidiol i brofi’r Cwestiwn a’r Datganiad Rhagarweiniol.
Mae’r amseru hwn yn bodloni’r amserlen a osodwyd gan Ysgrifennydd Cymru yr wythnos diwethaf, pan gyhoeddodd ei nod i gynnal y refferendwm cyn diwedd chwarter cyntaf y flwyddyn nesaf.
Dywedodd: “Ni wnaethpwyd dim gwaith ar y Cwestiwn cyn yr Etholiad Cyffredinol, ond rwy’n falch iawn o ddweud wrth y Tŷ heddiw bod Bwrdd y Prosiect wedi llunio Cwestiwn a Datganiad Rhagarweiniol ar gyfer y refferendwm. Heddiw, rwy’n ei anfon i’r Comisiwn Etholiadol er mwyn i’r Comisiwn gael y 10 wythnos angenrheidiol i wneud ei waith i gymeradwyo’r Cwestiwn hwnnw.
“Rwy’n meddwl fy mod wedi cyflawni mwy yn y cyfnod byr yr wyf wedi bod yn fy swydd na’r hyn a gyflawnodd fy rhagflaenydd ar ol 17 Chwefror, sef pan roddwyd gwybod iddo bod angen cynnal y refferendwm.”
Wedyn, dywedodd Mrs Gillan fod y Cwestiwn a’r Datganiad Rhagarweiniol wedi cael eu llunio gan Fwrdd y Prosiect, a sefydlwyd i oruchwylio’r paratoadau ar gyfer y refferendwm. Mae’r Bwrdd yn cynnwys cynrychiolwyr o Swyddfa Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Comisiwn y Cynulliad, Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Swyddfa’r Cabinet.
Ychwanegodd: “Mae Prif Weinidog Cymru, Dirprwy Brif Weinidog Cymru a minnau’n cytuno’n gyffredinol ar eiriad y Cwestiwn a’r Datganiad. Mae’n awr yn bwysig caniatau i’r Comisiwn Etholiadol gael y 10 wythnos angenrheidiol i wneud ei waith yn briodol.”
Gellir darllen y Cwestiwn a’r Datganiad Rhagarweiniol yma.