Ysgrifennydd Cymreig yn anfon ei dymuniadau gorau i’r Adar Gleision
Heddiw, bu i Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ddymuno lwc dda i dim Dinas Caerdydd wrth iddynt gychwyn am Wembley yn y gobaith o sicrhau…

Heddiw, bu i Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ddymuno lwc dda i dim Dinas Caerdydd wrth iddynt gychwyn am Wembley yn y gobaith o sicrhau lle yn yr Uwchgynghrair y tymor nesaf.
Meddai Mrs Gillan a aned yng Nghaerdydd: “Hoffwn anfon fy nymuniadau gorau i Dave Jones ac i holl dim pel-droed Dinas Caerdydd yn eu gem yn y rownd derfynol yn erbyn Blackpool ddydd Sadwrn yn Stadiwm Wembley.
“Rwyf mor falch bod yr Adar Gleision wedi gwneud cystal y tymor hwn, ac mae’n glod iddynt eu bod wedi dod o fewn 90 munud i’r Uwchgynghrair. Rwyf wir yn gobeithio, erbyn yfory, mai Caerdydd fydd y tim cyntaf o Gymru i gyrraedd yr Uwchgynghrair.”