Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn ymweld ag Aston Martin wrth i’r car moethus newydd cyntaf gael ei ryddhau o'r llinell gynhyrchu

Mae SUV moethus mwyaf pwerus y byd yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru ac yn cael ei gludo i dros 50 o wledydd ledled y byd

The DBX707 produced at Aston Martin's factory in South Wales will be exported to over 50 countries around the world

  • Bu Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart AS, yn ychwanegu’r manylion olaf i DBX707 cyn ei ryddhau o’r llinell gynhyrchu
  • Y DBX SUV yw’r car cyntaf i gael ei gynhyrchu yng Nghymru ers bron i 50 mlynedd
  • Mae dros 100 o swyddi crefftus newydd wedi cael eu creu

Ymwelodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart, a’r Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol, David TC Davies, ag Aston Martin heddiw (9 Mai) yn Sain Tathan ym Mro Morgannwg, i weld y DBX707 cyntaf yn cael ei ryddhau o’r llinell gynhyrchu. Mae’n nodi cam pwysig ar gyfer adferiad economaidd yn dilyn y pandemig Covid-19, ac mae’n tynnu sylw at uchelgais Aston Martin yng Nghymru.

Mae ffatri Aston Martin yn Ne Cymru yn cyflogi dros 700 o staff. Mae cynhyrchu ei fodel DBX707 newydd yn Sain Tathan wedi creu dros 100 o swyddi modurol crefftus newydd.

Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’n wych gweld brand eiconig Aston Martin yn cynhyrchu ceir yma yng Nghymru, cyn iddynt gael eu hallforio i rannau eraill o’r byd. Mae llwyddiant y model hwn yn brawf o’r tîm hynod fedrus a gweithgar sydd gennym ni, ac mae’n ddiddorol gweld sut maen nhw’n gweithio.

Rwyf am i Gymru fod yn lleoliad atyniadol ar gyfer technolegau modurol arloesol, a bydd Llywodraeth y DU yn parhau i weithio i sicrhau a chefnogi buddsoddiad cwmnïau, fel Aston Martin, wrth iddynt sbarduno twf economaidd a chreu swyddi.

Dywedodd Rich Campbell, Prif Dechnegydd Aston Martin, Sain Tathan:

Rydw i wedi bod yn gweithio i Aston Martin Lagonda ers chwe blynedd bellach ac rydw i wrth fy modd yn gweithio i’r cwmni. Mae gen i diddordeb mewn ceir erioed, ac mae’r swydd hon wedi rhoi cyfle i mi gyfuno fy mrwdfrydedd a’m gwaith. Ers i mi ymuno â’r cwmni, rydw i wedi datblygu yn fy swydd ac rydw i wedi cael fy nyrchafu i fod yn Brif Dechnegydd. Rydw i’n cael pleser mawr wrth helpu’r tîm i gyflawni ein nodau. Mae fy mab hefyd wedi ymuno ag AML, ac mae’n wych gwybod y bydd ganddo nawr y cyfle i gael gyrfa dda.

Dywedodd Michael Straughan, Prif Swyddog Gweithredol Aston Martin Lagonda:

Mae Aston Martin yn hynod o falch eu bod yn gweithgynhyrchu cynnyrch blaenllaw fel y DBX707 mewn cyfleuster o safon fyd-eang yng Nghymru, ac rydyn ni’n falch iawn o weld y model cyntaf un yn cael ei gwblhau.

Mae’r ymateb cychwynnol gan gwsmeriaid a’r cyfryngau wedi bod yn wych, ac wrth i ni gynyddu’r gwaith o gynhyrchu’r DBX707 yn Sain Tathan, mae’n wych ein bod ni hefyd wedi cael y cyfle i ychwanegu aelodau i’n tîm a chreu mwy o gyfleoedd gwaith i bobl o’r gymuned leol. Mae gan Gymru draddodiad cyfoethog o ragoriaeth ddiwydiannol a pheirianneg ac rydyn ni’n edrych ymlaen at greu’r dyfodol a chefnogi’r dreftadaeth honno.

Cyhoeddwyd ar 11 May 2022