Ysgrifennydd Cymru yn dweud bod y Cronfeydd Strwythurol yn bwysig i Gymru
Heddiw, mae David Jones, Ysgrifennydd Cymru, wedi ymateb i’r modd y mae’r Llywodraeth wedi dyrannu Cronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd i Gymru ar gyfer y cyfnod rhwng 2014 a 2020.
O ganlyniad i fformiwla’r Undeb Ewropeaidd ar gyfer dyrannu cronfeydd strwythurol, a gytunwyd gan y Cyngor Ewropeaidd ym mis Chwefror, roedd disgwyl i’r Gweinyddiaethau Datganoledig gyda’i gilydd gael cryn dipyn yn llai o arian – arian sy’n hollbwysig ar gyfer twf economaidd.
Oherwydd hyn, mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu ailddyrannu Cronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd er mwyn sicrhau bod y gostyngiadau’n cael cyn lleied o effaith â phosib yng Nghymru, yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon. Oherwydd yr ailddyrannu, bydd pob un o’r Gweinyddiaethau’n wynebu’r un faint o ostyngiad, sef oddeutu 5 y cant o arian, o’i gymharu â lefelau 2007-13.
Fel rhan o’r fargen hon, bydd cyfanswm o oddeutu €2.145 biliwn yn cael ei ddyrannu i Gymru, sy’n gynnydd sylweddol o €375 miliwn o’i gymharu â’r swm y byddai wedi’i dderbyn o dan fformiwla’r Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
“Fis diwethaf, roedd y Prif Weinidog wedi negodi toriad mewn termau real yng nghyllideb yr Undeb Ewropeaidd am y tro cyntaf mewn hanes. Mewn cyfnod pan mae pawb o bob cefndir yn teimlo’r esgid yn gwasgu, ni fyddai’n briodol bod gwariant yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei ddiogelu ac yn parhau i godi.
“Fodd bynnag, mae cronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd yn bwysig er mwyn cefnogi twf economaidd, ac rwy’n hynod o falch bod penderfyniad y Llywodraeth hon ynghylch sut i ddyrannu cyfran y DU o gronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd yn gwarchod Cymru rhag yr holl ostyngiadau y byddai wedi’u hwynebu drwy fformiwla’r Undeb Ewropeaidd ar ei phen ei hun.
“Yr hyn sy’n bwysig nawr yw bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r arian hwn yn ddoeth er mwyn helpu i sicrhau twf cadarn a chynaliadwy i Gymru.”
Nodiadau i Olygyddion:
Mae’r dyraniadau terfynol yn amodol ar gytuno â rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd a’r negodi parhaus sydd ar y gweill gyda Senedd Ewrop ynghylch Cyllideb 2014-20 yr Undeb Ewropeaidd. Bydd angen i’r Comisiwn Ewropeaidd gytuno ar gynigion y Llywodraeth hefyd.
Bydd dadansoddiad o’r dyraniadau ar gyfer Cymru yn cael eu cyhoeddi cyn hir.
Mae’r holl ffigurau ym mhrisiau 2011.
Diweddarwyd ddiwethaf ar 27 March 2013 + show all updates
-
Added translation
-
First published.